Cwynion Bwyd

Rydym yn derbyn tua 40 o gwynion bob blwyddyn yn ymwneud â phethau fel

  • 'pethau estron' mewn bwyd (yn cynnwys pryfed, metel, gwydr, gwallt ac ati).
  • bwydydd wedi llwydo, bwydydd sydd wedi 'troi', a
  • bwyd yr honnir ei fod wedi achosi salwch.

Wrth gwrs, mae rhai yn cwyno'n uniongyrchol i'r manwerthwyr a'r gwneuthurwyr heb alw am gymorth staff Iechyd yr Amgylchedd, ond mae lefel y cwynion dal i fod yn isel o ystyried y bwyd sy'n cael ei werthu a'i fwyta yn Nhorfaen. Mae gwybodaeth am rain Cwynion Cyffredin am Fwyd ar gael i'w lawr lwytho.

Mae gwybodaeth am Ddyddiadau Ar Ei Orau Cyn hefyd ar gael ar ffurf taflen y gellir ei lawr lwytho.

Y Gyfraith

Dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 , mae’n drosedd gwerthu bwyd nad yw'n addas i'w fwyta, neu fwyd sydd wedi ei halogi cymaint na fyddai'n rhesymol disgwyl iddo gael ei fwyta yn y cyflwr hwnnw.

Mae'r mwyafrif o'r busnesau bwyd wedi sefydlu gweithdrefnau i sicrhau, cyhyd ag y bo modd, nad yw'r fath broblemau yn codi. Mae'r Ddeddf yn cydnabod y trefniadau hyn fel amddiffyniad ( a elwir yn ddiwydrwydd dyladwy) pe byddai awdurdod lleol yn penderfynu erlyn. 

Ymchwilio i Gwynion Bwyd

Mae Taflen Cwynion Bwyd  ar gael sydd yn nodi'r camau y byddwn yn eu dilyn mewn perthynas â chwynion bwyd.

Cyn y byddwn yn cynnal ymchwiliad i'ch cwyn, byddwn angen:

  • Y bwyd, ac unrhyw ddeunydd lapio a derbynebau sydd gennych.
  • Gwybodaeth lawn am ble a phryd y prynwyd y cynnyrch, a bydd angen i ni wybod hefyd sut y gwnaethoch drafod a storio'r cynnyrch, oherwydd gallai'r broblem fod wedi deillio o'ch cartref.

Heb y bwyd neu'r wybodaeth lawn, ni fyddwn yn medru cynnal ymchwiliad llawn na chymryd camau ffurfiol fel erlyniad. Fodd bynnag, byddwn dal i fedru cynnal ymchwiliad cyfyngedig, a phleser byddai rhoi cyngor i chi ynghylch y camau y medrwn eu dilyn ar eich rhan.

Os yw'r gwyn yn ymwneud ag ansawdd neu fwyd a gafodd ei brynu y tu allan i ardal Torfaen, gallwn drosglwyddo'r cwynion i awdurdodau eraill fe y bo'n briodol. Rydym yn ceisio sicrhau bod y bobl gywir yn ymchwilio i'ch cwyn a dweud sut yr eir ati i ymchwilio i'ch cwyn.

Cymryd Camau Ynghylch Cwynion Bwyd 

Er mwyn mynd ati i ymchwilio i gwyn, rydym fel arfer yn olrhain cwyn am fwyd yn ôl i'r ffatri lle cafodd ei wneud, ac edrych ar sut y cafodd y bwyd ei gynhyrchu, ei gludo a'i werthu. Rydym hefyd yn siarad ag awdurdodau lleol eraill i weld a yw'r mannau y cafodd y bwyd ei baratoi a'i storio ac ati yn bodloni'r gofynion cyfreithiol. Gall yr ymchwiliad hwn gymryd peth amser, ac yn gyffredinol mae ychydig wythnosau cyn i ddechrau casglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom er mwyn i ni fedru penderfynu pa gamau i'w cymryd nesaf. 

Mae mwyafrif y cwynion yr ydym yn ymchwilio iddynt yn achosion ynysig ac rydym yn ceisio datrys y gwyn yn ffurfiol; ychydig iawn sy'n amlygu problem ddifrifol neu broblem sy'n ailymddangos.

Ni allwn erlyn onid oes gennym ddigon o dystiolaeth i brofi achos 'y tu hwnt i bob amheuaeth resymol' - ac mae hyn yn golygu bod angen i ni ddileu'r posibilrwydd bod y gwyn wedi codi yn eich cartref neu rhywle arall yn y gadwyn gludo neu fasnachu, a phrofi ble yn union y digwyddodd y broblem. Gall hyn fod yn anodd iawn weithiau, ac mae'n golygu nad ydynt bob amser yn medru canfod gwraidd y broblem a pwy y dylid eu herlyn.

Mae Deddf Diogelwch Bwyd 1990 hefyd yn caniatáu amddiffyniad o "ddiwydrwydd dyladwy" os ydynt wedi cymryd rhagofalon rhesymol ac ymarferol i atal y fath broblem. Mae'n cydnabod mai cynnyrch naturiol yw bwyd, ac nad yw hyd yn oed y masnachwr gorau medru cael pethau 100% yn gywir bob tro. Fodd bynnag, mae hyn yn golygu efallai na fyddwn yn medru erlyn hyd yn oed pan fyddwn yn medru profi mai gwneuthurwr neu fusnes oedd ar fai.

Cyfrinachedd 

Rydym bob amser yn cadw manylion y cwynion yn gyfrinachol, ac nid ydym yn eu rhyddhau ar ddiwedd ymchwiliad onid yw'r sawl sy'n cwyno yn cytuno i hyn. Fodd bynnag, mae'n ofynnol i ni ryddhau gwybodaeth am y sawl sy'n cwyno os ydym yn cymryd camau cyfreithiol mewn cysylltiad â chwyn, ac efallai bydd angen i'r sawl sy'n cwyno ddarparu tystiolaeth yn y llys. Cawn hefyd rhyddhau gwybodaeth am achwynwyr maleisus (gweler isod)

Cael Iawndal 

Mae'r mwyafrif o fanwerthwyr a gwneuthurwyr yn ymddiheuro, ad-dalu cost yr eitem anfoddhaol, ac weithiau maent yn cydnabod yr anghyfleustra a'r diffyg hyder yn y cynnyrch, er nad yw'n ofynnol iddynt wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Ni all y tîm Iechyd, Diogelwch a Bwyd ymgymryd â thrafodaethau ar ran yr achwynwr yn nhermau iawndal.

Cwynion Maleisus 

O bryd i'w gilydd rydym yn derbyn cwynion maleisus, ac achos pan fydd y sawl sy'n cwyno yn ceisio creu trafferth i fusnes neu hawlio iawndal heb achos. 

Mewn achosion o'r fath, byddwn yn ceisio cyngor cyfreithiol ac o bosib yn rhyddhau manylion y sawl sy'n cwyno i'r Heddlu neu'r busnes dan sylw. 

Diwygiwyd Diwethaf: 14/09/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Bwyd, Iechyd a Diogelwch

Ffôn: 01633 648009

Nôl i’r Brig