Gwenwyn Bwyd
Pan fyddwch yn bwyta rhywbeth sydd wedi'i halogi â germau , mae’n achosi gwenwyn bwyd.
Gall hyn ddigwydd os yw bwyd:
- heb ei goginio neu ei aildwymo’n drylwyr
- heb ei storio’n gywir – er enghraifft, heb ei rewi na'i oeri
- wedi cael ei adael allan yn rhy hir
- yn cael ei drin gan rywun sy'n sâl neu heb olchi eu dwylo
- yn cael ei fwyta ar ôl ei ddyddiad 'defnyddio erbyn'
Pwy sydd fwyaf mewn perygl?
Y bobl sydd fwyaf tebygol o ddioddef symptomau difrifol yw plant ifanc, menywod beichiog, pobl â chyflyrau iechyd fel canser, diabetes, clefyd yr afu a'r arennau ac ati, a phobl hŷn.
Gall imiwnedd y bobl yn y grwpiau hyn fod yn is, sy'n golygu ei bod yn anoddach iddynt ymladd bacteria a firysau.
Dylid cymryd gofal ychwanegol wrth baratoi, coginio a storio bwyd i chi'ch hun neu eraill yn y grwpiau hyn.
Sut i roi gwybod am fater hylendid neu ddiogelwch bwyd
Gallwch roi gwybod i ni am broblem sy’n ymwneud â bwyd mewn bwyty, siop fwyd, pryder am eitem a brynwyd neu gyda bwyd a archebwyd ar-lein, os yw’r busnes wedi'i leoli yn Nhorfaen. Bydd y tîm diogelwch bwyd yn ystyried y gŵyn ac yn penderfynu ar y ffordd fwyaf priodol o weithredu.
Beth allwch chi roi gwybod amdano
Gallwch roi gwybod os:
- ydych chi’n amau gwenwyn bwyd
- os oes rhywbeth na ddylai fod yn eich bwyd
- os yw’r safle’n fudr
- os oes dulliau gwael o ran hylendid dwylo
- os oes dulliau gwael o ran trafod bwyd
- os oes arwyddion amlwg o lwydni neu bydredd
- os yw’r bwyd sy’n cael ei werthu, heibio ei ddyddiad defnyddio erbyn
- os oes diffyg gwybodaeth neu wybodaeth anghywir am alergenau
Sut allwch chi leihau'r risg o wenwyn bwyd yn y cartref
Wrth ddilyn y cyngor ar hylendid bwyd a mathau eraill o gyngor, gall eich helpu i baratoi, coginio a storio bwyd yn ddiogel:
- coginiwch y bwyd yn gywir trwy ddilyn y canllawiau o ran ar amser a thymheredd
- oerwch eich bwyd dan 5 gradd, bydd hyn yn arafu twf y bacteria yn sylweddol neu yn ei atal yn gyfan gwbl
- glanhewch offer bwyd ac arwynebau yn drwyadl. Mae hyn yn helpu i atal bacteria a firysau niweidiol rhag lledaenu ar fwyd
- rhaid osgoi croes-halogiad a allai arwain at facteria yn trosglwyddo o fwydydd amrwd i fwydydd parod i'w bwyta trwy bethau fel bagiau siopa y gellir eu hailddefnyddio, cyllyll a byrddau torri bwyd
- Defnyddiwch fwyd a diod erbyn eu dyddiad 'defnyddio erbyn' ar y label, hyd yn oed os yw’n edrych yn iawn ac yn arogli’n iawn - gallai bwyta bwyd ar ôl y dyddiad hwn roi eich iechyd mewn perygl gan na allwch arogli na blasu bacteria sy'n eich gwneud chi'n sâl
- mae hylendid personol da yn hanfodol pan fyddwch chi’n paratoi bwyd. Bydd hyn yn helpu i sicrhau nad yw bacteria y gallech fod wedi dod i gysylltiad ag ef, yn cael ei drosglwyddo i eraill yn eu bwyd.
Bacteria a firysau sy'n gallu achosi gwenwyn bwyd
Diwygiwyd Diwethaf: 18/11/2025
Nôl i’r Brig