Wedi ei bostio ar Dydd Iau 8 Ionawr 2026
Diolch i bawb a gyfrannodd at ein hymgynghoriad cyntaf ar gynlluniau ar gyfer Bargen Torfaen newydd.
Nod y Fargen yw datblygu ffordd newydd o weithio rhwng y cyngor, trigolion, cymunedau a sefydliadau partner, i wella iechyd a lles pobl a lleihau anghydraddoldebau.
Aeth dros 2,250 o bobl at ein hymgynghoriad ar-lein, gyda bron i 500 yn rhoi eu barn, a rhoddwyd gwybodaeth i tua 400 o bobl am y cynlluniau newydd mewn dau ddigwyddiad Panel y Bobl a chyfres o sioeau teithiol ychydig cyn y Nadolig.
Yr wythnos nesaf, bydd Cynulliad Dinasyddion cyntaf Torfaen yn cyfarfod i ystyried yr ymatebion a dechrau datblygu'r cytundeb cymdeithasol newydd.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt: "Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd amser i ddysgu mwy am y cynlluniau ar gyfer Bargen Torfaen newydd a rhoi eu barn i ni.
"Mae gennym eisoes enghreifftiau gwych o grwpiau cymunedol lleol sy'n cymryd camau cadarnhaol i weithio gyda'r cyngor i wella bywydau a chyfleusterau lle maen nhw'n byw. Nod y Fargen yw ymgysylltu â mwy o drigolion a grwpiau i helpu eu cymunedau i ddod yn fwy gwydn.
"Trwy fuddsoddi mewn atal a grymuso ein cymunedau, gallwn fynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldeb a datgloi potensial llawn Torfaen gyda'n gilydd."
Bydd y Cynulliad Dinasyddion yn cynnwys 40 o drigolion wedi eu dewis gan Bartneriaethau Lleol, partner cyflenwi'r sector cyhoeddus ar gyfer Llywodraeth Cymru a'r Gymdeithas Llywodraeth Leol.
Byddan nhw’n cyfarfod ar dri dydd Sadwrn i drafod a datblygu cytundeb cymdeithasol newydd sy'n gosod y cyngor, trigolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau'r trydydd sector fel partneriaid cyfartal.
Bydd eu Bargen Torfaen arfaethedig yn cael ei roi allan ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus pellach ym mis Chwefror cyn ei lansio yn y gwanwyn.
Mae’r Fargen yn cyd-fynd ag ymrwymiad y cyngor i fod yn Gyngor Marmot ar y cyd, ochr yn ochr â Chyngor Blaenau Gwent.
Gallwch ddarganfod rhagor o wybodaeth am y cynlluniau ar gyfer Bargen Torfaen drwy fynd at wefan Cymryd Rhan Torfaen.