Grantiau'n helpu i leihau carbon a chostau

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 17 Chwefror 2026
cwmbran rfc solar panels

Mae prosiect datgarboneiddio wedi helpu 23 o grwpiau cymunedol a 26 o fusnesau i leihau allyriadau carbon, ac arbed hyd at £95,199 y flwyddyn ar nwy a thrydan.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae tîm rheoli ynni'r cyngor wedi rhoi grantiau o hyd at £425k i helpu sefydliadau i ariannu mesurau arbed ynni, fel paneli solar a systemau gwresogi carbon isel.

Derbyniodd Clwb Rygbi Cwmbrân £24,909 i osod 88 panel solar a thri batri i storio ynni. Mi fydd hyn yn helpu'r clwb i arbed tua £4,000 y flwyddyn ar filiau ynni.

Dywedodd Ian Evans, Ysgrifennydd Clwb Rygbi Cwmbrân: "Mae ein profiad o weithio gyda Chyngor Torfaen wedi bod yn brofiad hynod gadarnhaol. 

"Maen nhw wedi ein cefnogi i gael hyd i gyllid, wedi rhoi help ymarferol i ni, a'n helpu i gynnal sgyrsiau gyda sefydliadau eraill sy'n gallu cynnig cefnogaeth.

"Byddwn yn argymell sefydliadau eraill sydd ag uchelgeisiau tebyg i’n rhai ni, i siarad â’r cyngor, a all eu helpu i gyflawni eu targedau a'u hamcanion.” 

Derbyniodd tafarn y Rising Sun grant gwerth £9,986.10 hefyd i osod paneli solar

Dywedodd Gerwyn Evans, Perchennog tafarn y Rising Sun: "Roedd y broses i lenwi’r ffurflen gais yn gyflym, a bu aelod o staff y cyngor yn gynorthwyol iawn o ran mynd ati i drefnu popeth.  Hapus iawn â’r paneli solar, diolch yn fawr iawn.”

Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd: "Mae'r cynllun yn ffordd ymarferol o helpu sefydliadau a busnesau lleol i leihau’r ynni y maen nhw’n ei ddefnyddio, yn ogystal â lleihau costau ac allyriadau.

"Mae’r dasg o gefnogi ein cymunedau ar eu taith i sero net, yn parhau i fod yn rhan allweddol o'n hymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, a chyflawni amcanion llesiant ein Cynllun Sirol.”

Mae carbon sero net yn golygu cyflawni cydbwysedd rhwng yr allyriadau carbon sy'n cael eu rhyddhau i'r atmosffer, ee drwy ddefnyddio ynni a theithio, a'r swm sy'n cael ei dynnu ohono, i adfer natur a bioamrywiaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Grantiau Effeithlonrwydd Ynni, cysylltwch ar energy.management@torfaen.gov.uk  

Ariennir y Cynllun Grantiau Effeithlonrwydd Ynni gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

Mae cynllun sy’n cynnig cyfleoedd i drigolion yn Nhorfaen i uwchraddio ynni yn eu cartrefi i ynni gwyrdd, wedi ailagor, ac mae bellach yn derbyn ceisiadau. Dysgu mwy am y cynllun.

Dysgwch beth rydyn ni'n ei wneud i leihau allyriadau carbon: https://www.torfaen.gov.uk/en/Climate-Change/Net-Zero-2050/Net-Zero-2050.aspx

 

 

 

Diwygiwyd Diwethaf: 17/02/2026 Nôl i’r Brig