Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 17 Ebrill 2026
Mae rhiant wedi cael ei erlyn am fethu â sicrhau bod eu plentyn sy’n cael addysg gartref yn derbyn addysg addas.
Clywodd Llys Ynadon Cwmbrân fod y rhiant wedi cael Gorchymyn Presenoldeb Ysgol ar ôl iddynt fethu â darparu tystiolaeth o addysg y bachgen o oed ysgol uwchradd a methu ag ymgysylltu â thîm Addysg Gartref Dewisol y cyngor.
Clywodd y llys fod y cyngor wedi gwneud ymdrechion dro ar ôl tro i weithio gyda'r teulu a darparu cymorth addysg gartref, ond nid oedd gweithwyr proffesiynol yn gallu sefydlu beth oedd lefel addysgol bresennol y plentyn.
Ni aeth y rhiant y llys yr wythnos hon, ond caniataodd ynadon i'r achos fynd rhagddo er eu bod yn absennol.
Cafwyd y rhiant yn euog o fethu â chydymffurfio â Gorchymyn Presenoldeb Ysgol a chafodd ddirwy o £660, gorchymyn i dalu gordal dioddefwr o £264 a chostau o £120, cyfanswm o £1044 sy'n daladwy o fewn 28 diwrnod.
Dywedodd Andrew Powles, Cyfarwyddwr Addysg y cyngor: "Mae gan bob plentyn yr hawl i addysg addas, ac rydym yn ceisio gweithio'n adeiladol gyda theuluoedd sy'n dewis addysg gartref i’w plant. Ond os bydd rhieni'n methu ag ymgysylltu neu gydymffurfio â gofynion cyfreithiol, byddwn yn cymryd camau i ddiogelu lles addysgol plant."
Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod pob plentyn o oedran ysgol orfodol yn derbyn addysg addas, effeithlon, boed yn yr ysgol neu drwy addysg gartref ddewisol.
Mae rhieni sy'n dewis addysgu eu plant gartref yn cymryd cyfrifoldeb cyfreithiol am addysg eu plentyn a rhaid iddynt ddangos bod addysg briodol yn cael ei darparu.
Anogir unrhyw un sy'n ystyried addysg gartref ddewisol i gysylltu â Gwasanaeth Lles Addysg y cyngor a all gynnig cyngor ac arweiniad. Am ragor o wybodaeth: Addysg ddewisol yn y cartref | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen