Maes 3G newydd yn agor yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 14 Gorffennaf 2026
Cwmbran High 3G opening

Mae maes 3G newydd o'r radd flaenaf wedi agor yn swyddogol yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân.

Diolch i fuddsoddiad o £1.3 miliwn, mae’r prosiect wedi trawsnewid hen arwyneb redgra yr ysgol, ac mae bellach yn gyfleuster modern ar gyfer pob tywydd, sydd yn addas i ddisgyblion ac i’w hurio gan y gymuned.

Agorwyd y maes 3G newydd gan y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen, ac mae’n cynnwys arwyneb sydd wedi ei ardystio gan FIFA a World Rugby, llifoleuadau LED, ffensys newydd a rhwydi ar ben y pyst goliau.

Gall y cyfleuster newydd weithredu naill ai fel maes maint llawn neu ddwy ardal chwarae lai, gan gefnogi ystod o chwaraeon a gweithgareddau.

Defnyddiwyd deunydd a ailgylchwyd o'r hen arwyneb redgra i adnewyddu'r maes isaf, a fydd yn cael ei farcio ar gyfer hoci, a chodwyd ffens newydd ar hyd ei berimedr.

Mae cwrt tenis nad oedd yn cael ei ddefnyddio, hefyd wedi ei adnewyddu i fod yn gwrt gemau aml-ddefnydd.

Meddai Matthew Sims, Pennaeth, Ysgol Uwchradd Cwmbrân:

"Rydym yn falch iawn o agor y maes 3G newydd yn swyddogol. Bydd y cyfleusterau yn cynnig cyfleoedd gwych i'n disgyblion ddatblygu eu sgiliau chwaraeon a mwynhau bod yn actif, wrth fynd ati i gryfhau rôl yr ysgol fel canolbwynt i'r gymuned ehangach."

Roedd cyllid y prosiect yn cynnwys £1.2m gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, £65,000 gan Grant Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru a £38,000 o gyfraniadau Adran 106 y Cyngor.

Dywedodd y Cyng. Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen: "Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol mewn chwaraeon, gweithgarwch corfforol a lles cymunedol yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân. Trwy wella a moderneiddio'r cyfleusterau hyn, rydym yn creu ased cymunedol parhaol a fydd yn cefnogi cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon am flynyddoedd lawer."

“Bydd disgyblion yn elwa ar y cyfleusterau trwy gydol y diwrnod ysgol, tra bydd clybiau, timau a thrigolion lleol yn cael cyfleoedd i'w defnyddio a chadw'n actif y tu allan i oriau ysgol.”

Mae'r cyfleusterau newydd ar gael i’w hurio gan y gymuned drwy wefan SchoolHire - https://schoolhire.co.uk/
Diwygiwyd Diwethaf: 14/07/2026 Nôl i’r Brig