Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 21 Gorffennaf 2026
Heddiw (21ain Gorffennaf) mae Fferm Gymunedol Greenmeadow wedi croesawu Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol ar daith o amgylch yr atyniad poblogaidd.
Cyfarfu Ei Huchelder Brenhinol â thîm y fferm a gwirfoddolwyr fel rhan o'i hymweliad â Chymru a dysgodd sut mae'r fferm drefol yn helpu plant i ddysgu am ffermio a bwyd, anifeiliaid, bywyd gwyllt, peillio a chynaliadwyedd, a hefyd sut mae'r fferm yn cefnogi cyfleoedd gwirfoddoli i'r gymuned leol.
Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow wedi bod yn ased pwysig i bobl Torfaen ers y 1980au ac mae wedi bod yn fferm weithredol ers dros 250 o flynyddoedd, gyda'r ffermdy, wedi'i adeiladu o gerrig a llechi Cymreig, yn dyddio'n ôl i 1752.
Ail-agorodd y fferm ym mis Medi 2025, ar ôl buddsoddiad sylweddol yn y safle. Roedd ailddatblygu'r gyrchfan yn cynnwys Chwarae Antur dan do ac awyr agored, caeau anifeiliaid cerdded drwodd newydd, ysgubor anifeiliaid wedi'i huwchraddio a bwyty ffermdy estynedig ac wedi'i adnewyddu. Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys cyfleusterau gwell fel toiledau hygyrch a lle newid babanod.
Dywedodd Jac Griffiths, Rheolwr y Fferm: "Mae wedi bod yn anrhydedd fawr croesawu'r Dywysoges Frenhinol i'r fferm a'i dangos o amgylch ein safle hardd yng nghanol Cwmbrân.
"Mae'r diddordeb a ddangoswyd gan Ei Huchelder Brenhinol yn golygu llawer i ni, felly mae heddiw wedi bod yn garreg filltir wych arall ym mlwyddyn gyntaf y fferm."
Ers ailagor, mae'r fferm wedi croesawu 81,000 o ymwelwyr, 5,500 o blant trwy ymweliadau
gan ysgolion a 4500 o ymwelwyr pellach o briodasau, partïon pen-blwydd, digwyddiadau ac archebion corfforaethol.
Ychwanegodd Jac: "Rydym yn gwybod bod cenedlaethau iau yn ymddiddori fwyfwy mewn cynhyrchu bwyd a'r amgylchedd. Mae'r tîm yn Greenmeadow yn angerddol am ffermio, ac rydym yn llawn cyffro o allu helpu pobl ifanc i ddeall o ble mae bwyd yn dod a sut mae ffermydd yn gweithredu, a’r cyfan wrth gael profiad hwyliog a phleserus."
Ers agor mae'r fferm wedi ennill achrediad Croeso Cymru sy’n canmol cynnig addysgol cryf a chyflenwad o ansawdd uchel gan staff.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch isod i fynd at wefan y fferm.