Merched yn gafael yn awenau technoleg y dyfodol

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 17 Gorffennaf 2026
Not In Miss Out (2)

Mae mwy na 100 o ferched wedi defnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg i fynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar eu hysgolion neu gymunedau lleol, fel parcio tu allan i ysgolion a hydradu mewn tywydd poeth.

Roedd disgyblion Blwyddyn 6 a 7 yn rhan o raglen Merched mewn Technoleg a oedd yn anelu at ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fenywod mewn gyrfaoedd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Celfyddydau a Mathemateg.

Yn ystod y rhaglen bedwar mis, fe fu’r merched yn ymweld â busnesau gwyddoniaeth a thechnoleg lleol, gan gynnwys Ogi, Sero, a Thrafnidiaeth Cymru, ac yn cwrdd â menywod sy'n gweithio yn y sector.

Fe fuon nhw hefyd yn cymryd rhan mewn gweithdai a gynlluniwyd i ddatblygu eu sgiliau digidol, datrys problemau a gwaith tîm, a chawsant weld drostynt eu hunain sut maen nhw’n arloesi i ddatrys heriau yn y byd go iawn.

Yr wythnos hon, fe fuon nhw’n cyflwyno’u syniadau i athrawon a chyfoedion mewn digwyddiad dathlu a gynhaliwyd yn Ysgol Abersychan.

Ymhlith y prosiectau a oedd yn sefyll allan roedd potel ddiodydd wedi'i phweru gan Ddeallusrwydd Artiffisial, robot wedi'i gynllunio i wella diogelwch parcio tu allan i ysgolion a'r "Toiled Disgo".

Meddai Faye, o Ysgol Gynradd Garnteg: "Fe wnes i fwynhau ymweld â’r cyflogwr Ogi a dysgu mwy am y rhyngrwyd."

Meddai Isabela o Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Treftadaeth Blaenafon: "Fy hoff ran oedd mynd i’r brifysgol a gwrando ar y menywod gwahanol a'u teithiau tuag at weithio ym maes technoleg."

Cymerodd disgyblion o Ysgol Abersychan, Ysgol Wirfoddol a Reolir Treftadaeth Blaenafon, Ysgol Gynradd Garnteg ac Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer ran yn y rhaglen, a ddatblygwyd gan Her Place Wales - cwmni sy'n gweithio i ysbrydoli merched a menywod i ystyried gyrfaoedd yn y diwydiannau technoleg.

Ariannwyd y rhaglen gan Dîm Dyheadau Cyngor Torfaen a Phrifysgol De Cymru a chafodd ei chefnogi gan Rwydwaith Menywod Cymru mewn STEM.

Cafodd y disgyblion dystysgrifau a chafwyd canmoliaeth gan gynnwys Gwobr y Beirniaid, Gwobr Diogelwch, Gwobr Amgylcheddol a Gwobr Dewis y Bobl.

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae'n wych gweld cymaint o ferched yn cwblhau'r rhaglen hon ac yn arddangos syniadau creadigol sy'n defnyddio technoleg i ddatrys heriau bob dydd.

"Mae eu brwdfrydedd, eu creadigrwydd a'u hyder wedi bod yn ysbrydoledig, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y profiad yn eu hannog i barhau i archwilio'r amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael mewn gyrfaoedd STEAM."

Ariannwyd y prosiect yn Nhorfaen gan Dîm Dyheadau Cyngor Torfaen a Phrifysgol De Cymru.

 

 

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2026 Nôl i’r Brig