Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 17 Gorffennaf 2026
Mae arolygwyr wedi canmol disgyblion Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Ponthir am eu hymddygiad rhagorol a'u parodrwydd i chwarae rhan weithredol ym mywyd yr ysgol.
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon, dywedodd arolygwyr Estyn fod gan yr ysgol ethos cynhwysol a gofalgar yn seiliedig ar berthnasoedd cryf, parchus, sy'n helpu disgyblion i ymgysylltu â staff, disgyblion eraill a’r dysgu.
Tynnon nhw sylw’n arbennig at grwpiau arweinyddiaeth disgyblion yr ysgol, a oedd yn nodwedd gref o'r ysgol ac a oedd yn galluogi disgyblion i gyfrannu at wneud penderfyniadau ac arwain gweithgareddau pwrpasol.
Dywedodd y Pennaeth, Aisling O'Mahony: "Rwy'n falch iawn bod Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Ponthir wedi derbyn arolygiad mor gadarnhaol sy'n adlewyrchu ymroddiad ac ymrwymiad ein cymuned ysgol gyfan.
"Mae'r llwyddiant hwn yn dyst i'n disgyblion gwych, staff talentog, llywodraethwyr cefnogol a theuluoedd, sy'n gweithio gyda'i gilydd bob dydd i greu amgylchedd meithringar lle mae plant yn ffynnu.
"Rydym yn hynod falch o'r llwyddiant hwn ac yn edrych ymlaen at adeiladu ar y cryfderau hyn."
Dywedodd yr arolygwyr fod yr ysgol yn darparu cwricwlwm eang a chytbwys, sy'n cael ei gyfoethogi gan brofiadau dysgu diddorol, gan gynnwys dysgu yn yr awyr agored.
Dywedon nhw fod mwyafrif y disgyblion wedi gwneud cynnydd da mewn llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol. Gwnaethon nhw un argymhelliad: gwella sgiliau llafaredd Cymraeg disgyblion.
Dywedodd y Cyng. Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Llongyfarchiadau i'r staff, y disgyblion a'r rhieni am adroddiad rhagorol gan Estyn. Mae adroddiadau fel hyn yn tynnu sylw at pam fo presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol mor bwysig oherwydd ni ellid fod wedi cyflawni heb gyfraniad pob aelod o'r ysgol."
Read report: chrome-extension://efaidnbmnnnibpcajpcglclefindmkaj/https://estyn.gov.wales/app/uploads/2026/06/Inspection-report-Ponthir-Church-in-Wales-School-2026.pdf