Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 24 Gorffennaf 2026
Mae nifer uchaf erioed o wirfoddolwyr wedi cwblhau hyfforddiant cyn rhaglen chwarae haf y cyngor.
Mae bron i 500 o wirfoddolwyr, cynorthwywyr chwarae ac aelodau staff wedi cael eu recriwtio gan Wasanaeth Chwarae Torfaen eleni, a dyma’r gweithlu mwyaf yn hanes y gwasanaeth.
Yr wythnos hon, aeth y recriwtiaid ati i gymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi wythnos o hyd yn Ysgol Gorllewin Trefynwy ym Mhont-y-pŵl. Buont yn ymdrin â phynciau a oedd yn cynnwys cymorth cyntaf, gofal personol, ymwybyddiaeth o awtistiaeth, gemau tîm a chwarae cynhwysol.
Bydd y gweithlu medrus yn helpu i gyflwyno 33 o sesiynau chwarae dyddiol, gan gefnogi bron i 3,000 o blant bob dydd trwy gydol gwyliau’r haf.
Mae llawer yn gwirfoddoli gyda'r gwasanaeth am y tro cyntaf, a byddant yn ennill profiad gwerthfawr a sgiliau newydd i helpu gyda chyfleoedd gwaith yn y dyfodol o ran mynd i’r coleg, prifysgol neu fyd gwaith.
Mae cyn-wirfoddolwyr wedi symud ymlaen i yrfaoedd yn y maes chwarae, gofal plant, addysg a gwasanaethau ieuenctid.
Ymhlith y gwirfoddolwyr eleni mae Ffion Williams a Grace Treharne, 16 oed, y ddwy o Gwmbrân.
Meddai Ffion: "Rwyf wedi cael wythnos anhygoel a hyfforddiant gwych, o’r ymarferol i’r damcaniaethol. Allai ddim aros i fod ar y safle a chwrdd â'r plant"
Ychwanegodd Gracie: "Rydw i wedi cael wythnos ddifyr. Rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd a datblygu fy hyder. Alla i ddim aros i gael haf bendigedig"
Mae'r rhaglen eleni, sy'n dechrau ddydd Llun 27 Gorffennaf hyd at ddydd Iau 20 Awst, yn cynnwys gwersylloedd Bwyd a Hwyl, Chwarae Mynediad Agored, Chwarae yn y Parc. Ochr yn ochr â hyn, mae sesiynau chwarae a sesiynau seibiant arbenigol i blant ag anghenion ychwanegol.
Bydd hyd at 30,000 o brydau iach yn cael eu paratoi i blant sy'n mynd i’r Gwersylloedd Bwyd a Hwyl; y cyfan yn cael eu darparu gan wasanaeth arlwyo'r cyngor.
Mae'r galw am leoedd wedi bod yn uchel unwaith eto, ac mae llawer o sesiynau eisoes yn llawn, ac erbyn hyn maent yn cynnig rhestrau wrth gefn.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Rydym yn hynod falch o fod wedi recriwtio ein tîm chwarae mwyaf erioed i gefnogi rhaglen chwarae'r haf eleni.
"Mae'r cyfleoedd hyn yn rhoi profiadau diogel, difyr a chyfoethog i blant trwy gydol y gwyliau, ac maent hefyd yn rhoi sgiliau, hyder a phrofiad gwerthfawr i wirfoddolwyr, er mwyn cefnogi eu huchelgeisiau yn y dyfodol.
"Hoffwn ddiolch i bawb sy’n gweithio’n ddyfal i wireddu’r rhaglen, ac yn helpu i greu profiadau cadarnhaol i filoedd o blant."
Bydd gwirfoddolwyr a staff yn dod at ei gilydd ar ddiwedd y gwyliau ar gyfer digwyddiad gwobrwyo arbennig i ddathlu eu cyfraniad a'u cyflawniadau.
Gall teuluoedd sydd â diddordeb yn rhaglen yr haf ac am wybod mwy, wneud hynny drwy roi clic ar wefan Cysylltu Torfaen
www.connecttorfaen.org.uk