Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 10 Gorffennaf 2026
Mae pobl ifanc wedi dadorchuddio jig-so lliwgar i ddathlu cynhwysiant, hunaniaeth ac amrywiaeth yn eu cymunedau.
Datblygwyd y prosiect gan Gynghrair Ieuenctid Torfaen, a daeth â phobl ifanc o naw grŵp at ei gilydd, gan gynnwys Fforwm Ieuenctid Torfaen, Fforwm Ieuenctid Teithwyr Sipsiwn a Chanolfan Pobl Ifanc Cwmbrân.
Fe fuon nhw mewn gweithdai gyda'r artist Elaine Moor er mwyn creu 18 darn unigol sy'n rhan o'r jig-so 3m wrth 1.5m.
Datblygwyd y syniad ar gyfer y Jig-so Amrywiaeth gan aelodau Cynghrair Ieuenctid Torfaen, a oedd eisiau archwilio amrywiaeth a chynhwysiant. Cafodd y jig-so ei arddangos yn Ysgol Arbennig Crownbridge yr wythnos hon.
Meddai Phil Wilson, Swyddog Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc y Cyngor: "Mae'r Jig-so Amrywiaeth yn dangos beth ellir ei gyflawni pan fydd pobl ifanc yn gweithio gyda'i gilydd ac yn rhannu eu profiadau gwahanol.
"Mae pob darn yn unigryw, ond gyda'i gilydd maen nhw'n gynrychiolaeth bwerus o'r cymunedau sydd gennym yn Nhorfaen."
Mae'r Gynghrair Ieuenctid hefyd yn cynnwys Ysgol Arbennig Crownbridge, Tai Ieuenctid, Cyngor Cymuned Pont-y-pŵl, yr Uned Cyfeirio Disgyblion, Gofalwyr Ifanc a TOGS, sydd wedi'i leoli yn Y Dafarn Newydd.
Roedd y prosiect yn cynnwys naw gweithdy gyda’r artist, a thalodd tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol y Cyngor amdanynt.
Cynhyrchwyd y jig-so am ddim gan Smurfit Westrock yn Abercarn.
Bydd y Gynghrair Ieuenctid yn cwrdd eto ym mis Medi ac yn penderfynu ar eu ffocws ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.