Wedi ei bostio ar Dydd Iau 9 Gorffennaf 2026
Mae plant ledled Torfaen yn cael eu hannog i godi llyfr yr haf hwn wrth i Her Ddarllen yr Haf ddychwelyd.
Mae'r her flynyddol, a lansiwyd ddydd Sadwrn, yn gwahodd plant rhwng pedair ac 11 oed i ddarllen neu wrando ar chwech neu fwy o lyfrau llyfrgell dros gyfnod gwyliau'r haf.
Mae'r thema eleni, Cyfrolau’n Canu, yn dathlu creadigrwydd a hunanfynegiant trwy lyfrau wedi'u hysbrydoli gan gerddoriaeth, dawns ac adrodd straeon.
Bydd darllenwyr ifanc sy'n cymryd rhan yn gallu casglu gwobrau ar hyd y ffordd, gan gynnwys sticeri, cylchgronau a bagiau llyfrau - tra bod stociau'n para.
Bydd un darllenydd lwcus yn ennill gwobr arbennig mewn raffl a gynhelir ar ddiwedd yr her.
Mae yna hefyd her fach yn benodol ar gyfer plant bach 3 oed ac iau.
Dywedodd y Cyng. Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg:
"Mae Her Ddarllen yr Haf yn ffordd hwyliog o gadw plant i ddarllen dros y gwyliau ac yn helpu i sicrhau eu bod yn dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi yn ddarllenwyr hyderus a brwdfrydig.
"Mae darllen yn un o'r sgiliau pwysicaf y gall plentyn ei ddatblygu, gan helpu i fagu hyder, creadigrwydd a chariad gydol oes at ddysgu."
"Gyda mwy na 400 o blant yn cwblhau'r her y llynedd, byddem wrth ein bodd yn gweld hyd yn oed mwy yn cymryd rhan yr haf hwn."
Mae'r her yn hollol rad ac am ddim. Gall plant gymryd rhan gan ddefnyddio llyfrau, eLyfrau a llyfrau sain a fenthycwyd drwy Lyfrgelloedd Torfaen, gydag aelodaeth llyfrgell ar gael am ddim i bob preswylydd.
Ochr yn ochr â'r her ddarllen, bydd gan Lyfrgelloedd Torfaen raglen lawn o weithgareddau haf, gan gynnwys gweithdai hip hop, sesiynau cerddoriaeth ddigidol, canu sianti a chlybiau Lego thematig.
Bydd sesiynau stori a chrefft poblogaidd hefyd yn dychwelyd trwy gydol mis Awst i blant rhwng pump a 10 oed mewn llyfrgelloedd ledled y fwrdeistref.
Trefnir Her Ddarllen yr Haf yn genedlaethol gan The Reading Agency a bydd yn mynd tan ddiwedd mis Medi.
I gael rhagor o wybodaeth am yr her a'r gweithgareddau, ewch i'ch llyfrgell leol, dilynwch Lyfrgelloedd Torfaen ar Facebook neu ffoniwch 01633 647676.