Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 19 Mehefin 2026
Mae proses newydd i sicrhau bod plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref yn cael addysg addas wedi gweld cynnydd yn nifer y rhieni sy'n darparu'r wybodaeth ofynnol.
Mae rhieni sy'n dewis addysgu eu plant gartref yn cymryd cyfrifoldeb cyfreithiol am eu haddysg a rhaid iddynt ddangos ei bod yn cael ei darparu i safon briodol.
Mae'r rhan fwyaf o rieni sy'n addysgu gartref yn Nhorfaen yn anfon tystiolaeth o addysg eu plentyn at swyddog Addysg Ddewisol yn y Cartref y Cyngor o leiaf unwaith y flwyddyn.
Ers mis Medi, mae'r Cyngor wedi dechrau anfon llythyrau hysbysu Gorchmynion Mynychu’r Ysgol at y rheiny sy'n methu â darparu unrhyw wybodaeth.
Mae'r broses yn cynnig sawl cyfle i rieni ddarparu'r ddogfennaeth ofynnol neu ailymgeisio am le mewn ysgol. Gall methu â chydymffurfio â gorchymyn arwain at erlyniad.
Mae'r rhan fwyaf o rieni a gafodd lythyr hysbysu wedi darparu tystiolaeth o addysg eu plentyn neu wedi ail-gofrestru eu plentyn yn yr ysgol.
Erlynwyd dau deulu sydd wedi methu â chydymffurfio â'r gorchymyn, gan gynnwys rhieni merch oedran ysgol uwchradd a gafwyd yn euog yn Llys Ynadon Cwmbrân yr wythnos ddiwethaf ac a gafodd ddirwy o £2,328.
Meddai Andrew Powles, Cyfarwyddwr Addysg: "Mae gan bob plentyn yr hawl gyfreithiol i addysg. I’r rheiny sydd ddim yn gallu darparu'r dystiolaeth ofynnol, mae’n ddyletswydd arnom i weithio gyda nhw i sicrhau bod addysg addas yn cael ei darparu, neu eu cefnogi i ailgyflwyno’u plentyn i addysg brif ffrwd."
Anogir unrhyw un sy'n ystyried addysg ddewisol yn y cartref i gysylltu â Gwasanaeth Lles Addysg y Cyngor sy’n gallu rhoi cyngor ac arweiniad.