Agor ystafelloedd synhwyraidd newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 19 Mehefin 2026
Sensory rooms

Mae pum ystafell synhwyraidd newydd wedi agor ar draws Torfaen, gan ehangu mynediad i amgylcheddau cynhwysol, therapiwtig ymhellach i blant ag anghenion cymhleth, diolch i Wasanaeth Chwarae Cyngor Torfaen.

Yn dilyn galw cynyddol ymhlith teuluoedd, ysgolion a gweithwyr proffesiynol, mae'r mannau newydd yn adeiladu ar lwyddiant ystafelloedd synhwyraidd cyntaf y gwasanaeth, a agorwyd ym mis Mawrth 2025, gan ddod â'r cyfanswm i 11.

Cynlluniwyd ystafelloedd synhwyraidd i ysgogi'r synhwyrau trwy olau, sain, cyffwrdd a symudiad.

Mae pob lleoliad yn cynnwys goleuadau rhyngweithiol, paneli cyffwrdd, nodweddion chwarae meddal a thechnoleg synhwyraidd gynorthwyol i gefnogi amrywiaeth eang o anghenion.

Mae'r ystafelloedd synhwyraidd newydd ar gael nawr yn:

  • Llyfrgell Cwmbrân, Sgwâr Gwent, Cwmbrân
  • Llyfrgell Pont-y-pŵl, Hanbury Road, Pont-y-pŵl
  • Canolfan a Llyfrgell Treftadaeth y Byd Blaenafon, Blaenafon
  • Canolfan Integredig i Blant Cwmbrân, Ton Road, Cwmbrân
  • Fferm Gymunedol Greenmeadow

Ar ben hynny, ailwampiwyd ystafelloedd synhwyraidd ysgolion cynradd New Inn a Ffordd Blenheim hefyd.

Meddai Kerry Jenkins o Lantarnam, y mae ei merch Neve yn defnyddio’r ystafell synhwyraidd yn Eglwys Victory: "Mae'n hyfryd gweld yr holl ystafelloedd synhwyraidd hyn yn agor ar draws Torfaen. Mae fy merch yn mynd bob dydd Sadwrn, ac mae'n ei helpu i ymlacio a rheoli ei synhwyrau. Byddai'n wych petai gennym un o'r rhain gartref!"

Mae pob un o’r ystafelloedd synhwyraidd ar gael i'w hurio gan rieni, gofalwyr, grwpiau cymunedol a gweithwyr proffesiynol, ac nid oes unrhyw dâl am ddefnyddio'r cyfleusterau.

Roedd y prosiect yn bosibl diolch i gyllid gan Gronfa Tai â Gofal Gwent Fwyaf. sy'n cefnogi datblygiad cyfleusterau cymunedol sy'n hyrwyddo llesiant, annibyniaeth a mynediad cynhwysol.

Mae'r ehangu hwn yn dilyn canfyddiadau'r ymgynghoriad diweddaraf ar gyfer yr Asesiad o Ddigonolrwydd Chwarae, a amlygodd bwysigrwydd amgylcheddau chwarae hygyrch, wedi'u teilwra, i blant ag anableddau a'u teuluoedd.

Meddai Jason O'Brien, Cyfarwyddwr Strategol Plant a Theuluoedd Cyngor Torfaen: "Mae'r cyfleusterau synhwyraidd hyn yn parhau i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant ag anableddau a'u teuluoedd.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn, waeth beth fo'u gallu, yn cael mynediad cyfartal i fannau cymunedol cynhwysol, croesawgar."
Diwygiwyd Diwethaf: 19/06/2026 Nôl i’r Brig