Rysáit ar gyfer Meithrin Cysylltiad yn Nhorfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 18 Mehefin 2026
Ukrainian Women Food Project

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd, rydyn ni’n dathlu'r gwirfoddolwyr a'r prosiectau cymunedol sy'n helpu pobl i deimlo cysylltiad a chefnogaeth ac i deimlo ychydig yn llai unig, gan gryfhau llesiant a chydnerthedd cymunedol ar draws Torfaen, yn unol â Bargen Torfaen.

Mae pump menyw o Wcráin sy'n byw yn Nhorfaen wedi iddynt ffoi rhag y rhyfel yn eu mamwlad, wedi bod yn helpu i feithrin cysylltiadau agosach â'r gymuned trwy rannu eu prydau cartref.

Mae’r Clwb Tyfu a Choginio yng nghanolfan Living Waters Centre ym Mhont-y-pŵl, yn cefnogi pobl sydd wedi'u dadleoli ac sy'n byw yn y Fwrdeistref, trwy wella mynediad at fwyd, lleihau ynysu, a dod â phobl at ei gilydd trwy brofiadau cyffredin.

Sefydlwyd y prosiect gan Bartneriaeth Bwyd Torfaen, mewn partneriaeth â thîm ailsefydlu'r Cyngor a Gobaith i'r Gymuned.

Yn y sesiwn gyntaf, croesawyd y menywod o Wcráin, a fu’n paratoi prydau traddodiadol fel Cyw Iâr Kiev a Pampushky Wcreineg - peli bara wedi'u ffrio gyda garlleg, a rannwyd gydag aelodau o'r gymuned leol.

Ar wahân i goginio, rhannodd y menywod y straeon y tu ôl i'r bwyd, gan gynnig cipolwg ar ddiwylliant, traddodiadau a bywyd bob-dydd Wcráin.

Meddai Alla Pylypenko, a gyrhaeddodd Dorfaen trwy'r Cynllun Cartrefi i Wcráin yn 2022: "Roedd coginio gyda'n gilydd yn ein hatgoffa am gartref, ac roedd rhannu ein bwyd ag eraill yn gwneud i ni deimlo croeso mawr. Roedd yn hyfryd gweld pobl yn mwynhau prydau o Wcrain ac yn dangos diddordeb yn ein diwylliant."

Mae canolfan Living Waters Centre, ar Osborne Road ym Mhont-y-pŵl, hefyd yn rhedeg pantri cymunedol a chaffi bob:

  • Dydd Mawrth 10am - 1pm
  • Dydd Mercher 10am - 1pm
  • Dydd Sadwrn 10am - 12pm

Mae'r wythnos hon hefyd yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Ffoaduriaid, sef adeg i gydnabod cryfder a chydnerthedd ffoaduriaid a dathlu eu cyfraniad yn y cymunedau lle maen nhw'n ymgartrefu.

Mae’r Clwb Tyfu a Choginio yn dangos Bargen Torfaen ar waith - cryfhau partneriaethau rhwng y Cyngor, sefydliadau lleol a thrigolion er mwyn gwella llesiant cymunedol.
Diwygiwyd Diwethaf: 18/06/2026 Nôl i’r Brig