Disgyblion yn ennill cystadleuaeth a ysbrydolwyd gan Dywysog Cymru

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 1 Gorffennaf 2026
Untitled design - 2026-07-01T163218.747

Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Griffithstown wedi ennill gwobr wedi'i hysbrydoli gan Wobr Earthshot Tywysog Cymru.

Dyma'r tro cyntaf i'r ysgol gymryd rhan yng nghystadleuaeth Her Hinsawdd Cymru, sy'n gwahodd ysgolion o bob cwr o Gymru i ddatblygu atebion creadigol ac arloesol i rai o heriau amgylcheddol mwyaf y byd.

Cafodd y disgyblion o Flwyddyn 3 ddau syniad - gardd to werdd wedi’i phweru gan yr haul a choed robot sy'n gallu cael gwared ar lygryddion aer – a buon nhw’n ymchwilio iddyn nhw ac yn eu harddangos trwy ddau fideo.

Cyrhaeddodd y ddau restr fer y wobr Glanhau Ein Haer, ac enillodd yr ardd to werdd wedi’i phweru gan yr haul y wobr uchaf mewn seremoni yn Techniquest, yng Nghaerdydd, yr wythnos ddiwethaf.

Meddai disgybl o Flwyddyn 3, Annabella: "Roeddwn i'n hapus iawn oherwydd ein bod ni wedi ennill “Earthshot” Glanhau Ein Haer, ac roeddwn i'n gyffrous iawn i gael fy newis i fynd i Techniquest. Fe wnes i fwynhau edrych ar yr hyn yr oedd yr ysgolion eraill wedi'i wneud."

Ychwanegodd Emmett: "Roeddwn i'n synnu ac yn falch iawn ein bod ni wedi ennill y wobr gyntaf yn “Earthshot” Glanhau Ein Haer, ac roeddwn i'n gyffrous iawn i ddangos hyn i ysgolion eraill. Cefais lawer o hwyl yn cymryd rhan yn y gweithgareddau gwahanol yn Techniquest."

Meddai’r athrawes Amy Charles, sy'n rhedeg pwyllgor eco yr ysgol: "Roedd y seremoni wobrwyo yn tynnu sylw at y rôl bwysig sydd gan blant wrth lunio dyfodol mwy cynaliadwy a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r byd o'u cwmpas.

"Mae'r wobr hon yn cydnabod eu creadigrwydd, eu gwaith tîm a'u hymrwymiad i'r amgylchedd."

Nawr, mae'r ysgol yn bwriadu canolbwyntio ar y categorïau “Earthshot” gwahanol yn ystod ei phythefnos wyddoniaeth: adeiladu byd diwastraff, glanhau ein haer, trwsio ein  hinsawdd, adfywio ac adfer natur ac adfywio ein cefnforoedd.

Cyflwynwyd y gwobrau gan Helen Nelson, o Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

Mae Her Hinsawdd Cymru yn cael ei rhedeg gan dîm eco-sgolion Cadwch Gymru'n Daclus mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Bydd y Wobr Earthshot fyd-eang eleni yn cael ei chyhoeddi yn Uwchgynhadledd Earthshot yn Mumbai, India, ym mis Tachwedd, pan fydd pum enillydd yn cael £1m i wireddu eu syniadau.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/07/2026 Nôl i’r Brig