Addysg yn y Cartref
Rhieni sy'n bennaf gyfrifol am sicrhau bod eu plant yn cael addysg addas. Er bod y rhan fwyaf o rieni'n dewis defnyddio ysgolion, mae nifer gynyddol yn cyflawni eu cyfrifoldebau'n uniongyrchol trwy ddarparu addysg yn y cartref ac yn y gymuned. Pa lwybr bynnag y byddwch yn ei ddilyn, mae'n syniad da siarad â'ch plant ac ystyried eu dymuniadau a'u teimladau ynghylch eu haddysg.
Mae'r rhan hon o'r wefan yn rhoi gwybodaeth am addysg gartref a chyfrifoldeb a dyletswyddau Cyngor Torfaen tuag at blant sy'n cael eu haddysgu gartref. Disgwylir i chi fel rhiant/rhieni neu ofalwyr a ni, fel Awdurdod Lleol (ALl), anelu at sicrhau bod eich plentyn yn cael y cyfle gorau posibl i ddysgu yn ystod ei gyfnod o addysg gartref. I gyflawni'r nod hwn yn fwyaf effeithiol, bydd angen i ni weithio gyda'n gilydd o dro i dro a gallu cyfathrebu â'n gilydd yn eithaf rheolaidd. Gall fod angen rhywfaint o gymorth a chefnogaeth arnoch, ac mae angen i ni roi cyfle i chi gyflwyno tystiolaeth o'r profiad dysgu systematig y mae eich plentyn yn ei dderbyn ac i ddangos cynnydd addysgol parhaus eich plentyn.
Addysg Gartref
Nod Addysg Gartref yw cefnogi teuluoedd sy'n dewis addysgu eu plant "Heblaw yn yr Ysgol" yn unol ag Adran 7 Deddf Addysg 1996.
Rydym yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad i rieni ar y pynciau canlynol:
- Addysg gartref a'r gyfraith
- Sut i strwythuro trefniadau addysgol
- Adnoddau addas
- Meysydd llafur y cwricwlwm cenedlaethol ac arholiadau
- Cyngor ar yrfaoedd, cyrsiau coleg, cyfraith cyflogaeth, iechyd
- Monitro darpariaeth addysgol plant sy'n cael eu haddysgu gartref
- Parchu dewis rhieni i addysgu gartref
- Hwyluso'r trefniadau ar gyfer dychwelyd i ysgol brif ffrwd os yw rhieni'n gofyn am hynny
Gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Gwersi Amgen i gael cymorth ac arweiniad pellach.
Gwersi Gartref
Nod gwersi gartref yw addysgu a chefnogi addysg barhaus plant a phobl ifanc o oedran ysgol statudol nad ydynt yn gallu manteisio ar addysg brif ffrwd am resymau meddygol neu seicolegol.
Yr hyn rydym ni'n ei wneud:
- Cynorthwyo ysgolion i sicrhau eu bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau i gynnig hawl statudol ofynnol i ddisgyblion sy'n methu mynd i'r ysgol oherwydd salwch, a galluogi ysgolion i addysgu'r person ifanc gyda chyn lleied o darfu â phosibl.
- Cydweithio'n agos â'r ysgol gartref i roi cynllun addysg barhaus ar waith a sicrhau parhad y ddarpariaeth.
- Goruchwylio'r gwaith sy'n cael ei osod gan ysgolion mewn pynciau craidd a meysydd eraill y cwricwlwm fel nad yw plant sâl o dan anfantais oherwydd eu salwch.
- Darparu addysg gartref, yn yr ysbyty, mewn llyfrgelloedd, mewn ysgolion ac mewn grwpiau bychain (ar sail achosion unigol) ar gyfer disgyblion sâl a ffobig er mwyn eu galluogi i gymysgu â'u cyfoedion a magu hyder, a'u paratoi ar gyfer ailintegreiddio.
- Galluogi disgyblion i gael at gyfrifiadur/gliniadur yn y cartref neu'r ganolfan addysgu, ynghyd â meddalwedd ategol a gwersi'r cwricwlwm ar-lein ac ar fideo er mwyn sefydlu cysylltiadau effeithiol ag ysgolion a gwasanaethau. Gwneir hyn er mwyn lleihau'r tarfu ar addysg disgyblion, gwella cyrhaeddiad a chynnig cyfleoedd dysgu cadarnhaol. (Nid ydym yn darparu mynediad at gyfrifiadur/gliniadur. Gallwn ddarparu gwybodaeth ynghylch cyfleoedd dysgu ar-lein)
- Cydweithio ag asiantaethau allanol, ysgolion a theuluoedd i ddatblygu strategaethau i wella lefelau cyflawniad plant sy'n sâl. Cynorthwyo plant sâl i ailintegreiddio i'r ysgol, addysg bellach, gwaith neu hyfforddiant.
Gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Gwersi Amgen i gael cymorth ac arweiniad pellach.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig