Presenoldeb Ysgol
Fel rhiant, chi sy'n gyfrifol yn ôl y gyfraith, am sicrhau bod eich plentyn yn mynychu'r ysgol.
Os yw eich plentyn yn methu’r ysgol heb reswm derbyniol, rydych mewn perygl o gael Hysbysiad Cosb Benodedig neu gael eich erlyn.
Os na all eich plentyn fynychu'r ysgol, rhaid i chi hysbysu'r ysgol i esbonio pam cyn gynted â phosibl.
Gall ysgol eich plentyn awdurdodi absenoldebau:
- Os yw eich plentyn yn rhy sâl i fynd i’r ysgol
- Os oes ganddynt apwyntiad deintyddol neu feddygol
- Os yw perthynas wedi marw
- Am resymau ee gŵyl grefyddol
Nid yw'r canlynol yn rhesymau derbyniol dros golli'r ysgol a gellir eu hystyried yn absenoldebau heb awdurdod:
- teithiau dydd
- teithiau siopa
- diwrnodau i ffwrdd i ddathlu pen-blwydd
- ymweld â pherthnasau
- cysgu’n hwyr
- gofalu am frodyr neu chwiorydd
Gwyliau
Mae'n rhaid i chi gyflwyno cais ffurfiol i'r Pennaeth i fynd â phlant ar wyliau yn ystod y tymor ysgol. Os gwrthodir y cais, bydd yn cael ei ystyried yn absenoldeb heb awdurdod, a gallech dderbyn Hysbysiad Cosb Benodedig.
Mae 190 o ddiwrnodau ysgol mewn blwyddyn, sy’n gadael 175 o ddiwrnodau ar benwythnosau a gwyliau ysgol. Gallwch weld dyddiadau gwyliau ysgol yma: Dyddiadau Tymhorau Ysgol a Gwyliau.
#DdimMewnColliMas
Mae gwasanaeth addysg Cyngor Torfaen wedi lansio ymgyrch i ddathlu’r gwahanol fanteision a geir wrth fynd i’r ysgol bob dydd. Chwiliwch yr hashnod ar y cyfryngau cymdeithasol i weld beth sy’n digwydd yn eich ysgol leol.
Roedd disgyblion a staff Ysgol Gynradd Llanyrafon ac Ysgol Abersychan ymhlith y cyntaf i gael eu cynnwys mewn cyfres o fideos cyfryngau cymdeithasol yn hyrwyddo rhai o'r rhesymau pam mae eu disgyblion - a'u staff - wrth eu bodd yn mynd i'r ysgol.
Ydych chi'n cael trafferth anfon eich plentyn i'r ysgol?
Os nad yw eich plentyn eisiau mynd i'r ysgol, gallwch siarad ag athro/athrawes dosbarth eich plentyn, Pennaeth Blwyddyn neu’r Pennaeth i gael cymorth a chefnogaeth. Mae cyngor a chefnogaeth ar gael hefyd gan Swyddog Lles Addysg yr ysgol.
Diwygiwyd Diwethaf: 22/11/2023
Nôl i’r Brig