Diffyg Presenoldeb (Hysbysiadau Cosb Benodedig)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno diwygiadau pwysig i ddeddfwriaeth yn ymwneud â phresenoldeb yn yr ysgol. Yn ôl Deddf Addysg 1996, mae’n drosedd i riant "fethu â sicrhau bod eu plentyn yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd ". Mae’r diwygiadau newydd yn cynnwys cynllun hysbysiad cosb. Mae hyn yn golygu, o fis Medi 2014, fod pennaeth yn gallu gofyn am gyhoeddi Hysbysiad Cosb Benodedig ar gyfer presenoldeb afreolaidd plentyn neu berson ifanc sydd wedi’i gofrestru yn eu hysgol. Mae hyn yn cynnwys disgyblion sy’n mynychu darpariaeth addysg amgen a drefnir gan y Cyngor.
Enghreifftiau o’r adegau y gellir cyhoeddi Hysbysiad Cosb Benodedig
Absenoldebau anawdurdodedig
Ble mae o leiaf 10 sesiwn (5 niwrnod ysgol) yn cael eu colli oherwydd absenoldebau anawdurdodedig (nid oes rhaid eu bod yn olynol). Cewch hysbysiad ffurfiol gan y Pennaeth yn esbonio’r camau y gellid eu cymryd.
Gwyliau yn ystod y tymor ysgol
Gellir cyhoeddi Hysbysiad Cosb Benodedig ar gyfer cyfnod anawdurdodedig o absenoldeb am 10 sesiwn (pum niwrnod ysgol) neu fwy yn ystod y tymor ysgol; rhaid bod y rhain yn ddiwrnodau ysgol olynol.
Triwantiaeth
Pan fydd plentyn neu berson ifanc yn dod i sylw’r Heddlu yn ystod oriau ysgol, am ei fod yn absennol o’i ysgol gofrestredig heb reswm derbyniol.
Dirwyon
- £60 y rhiant am bob plentyn os telir o fewn 28 niwrnod
- £120 y rhiant am bob plentyn os telir ar ôl 28 niwrnod neu cyn 42 niwrnod
- Ar ôl 42 niwrnod, cewch wŷs i ymddangos gerbron y Llys Ynadon.
Gwybodaeth bellach
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y dogfen Cod Ymddygiad Lleol - Addysg Cosb Benodol.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig