Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 23 Medi 2025
Cyn bo hir, bydd trigolion yn gallu rhoi eitemau trydanol bach yn y bocs ailgylchu fel rhan o’u hailgylchu wythnosol.
O ddydd Llun, 06 Hydref, gallwch roi eitemau trydanol bach fel sychwyr gwallt a thostwyr yn y bocs ailgylchu du. Y gwasanaeth newydd yw’r cam nesaf ar daith y cyngor at ailgylchu 70 y cant.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd: “Mae hwn yn gam cadarnhaol pellach ar gyfer ailgylchu yn Nhorfaen.
“Bydd gallu ailgylchu eitemau trydanol bach wrth ymyl y ffordd yn ein helpu i arbed lle ym miniau clawr porffor trigolion a bydd yn osgoi teithiau i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
“Mae pob eitem a gaiff ei ailgylchu’n ein helpu ni i warchod yr amgylchedd a symud yn agosach at ein targed o ailgylchu 70 y cant.”
Eitemau trydanol bach yw unrhyw beth sy’n cael ei bweru trwy blwg, batri neu wefrwr, ac sy’n ddigon bach i fynd i’r bocs ailgylchu du. Dim ond eitemau nad ydynt yn fwy na 30cm x 30cm x 30cm (tua 12 modfedd x 12 modfedd x 12 modfedd) y gellir eu hailgylchu wrth ymyl y ffordd.
Ymhlith yr enghreifftiau mae sychwyr gwallt, sythwyr gwallt, a thocwyr gwall, tegelli, haearnau, brwshys dannedd trydanol, clociau, oriorau cyfrifianellau a thortshis, dyfeisiau rheoli o bell, ffonau symudol, camerâu a gwefrwyr, radio, larymau, Chwaraewyr CD a MP3, teganau electronig bach a theclynnau pŵer bach. Gwnewch yn siŵr os gwelwch yn dda fod y batris wedi eu tynnu allan
Nid oes modd ailgylchu poptai meicrodon neu deledu yn y bocs du gan eu bod yn rhy fawr i fynd ar y cerbydau casglu. Maen nhw hefyd yn cael eu hystyried yn gategori gwahanol o wastraff, felly does dim modd eu cymysgu gydag eitemau trydanol bach.
Os oes gyda chi eitemau trydanol mwy, gallwch fynd â nhw i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Dafarn Newydd, neu gallan nhw gael eu casglu am gost trwy ein cynllun casglu eitemau swmpus.
Os ydych chi’n credu y gallai eich eitem trydanol gael ei drwsio, gallwch fynd a hi i’r Caffi Atgyweirio ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl.
Gydag unrhyw eitemau trydanol nad oes eu hangen, ac a fyddai’n addas i’w hailddefnyddio, ewch i’r Steelhouse neu Furniture Circulate Recycling.