Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 6 Mawrth 2026
Mae ymgyrch Gwanwyn Glân Torfaen Cadwch Dorfaen yn Daclus eleni yn dechrau ddydd Mercher 11 Mawrth.
Cynhelir pum digwyddiad codi sbwriel mewn partneriaeth â Cadwch Gymru'n Daclus, yn y lleoliadau canlynol:
- Dydd Mercher 11 Mawrth, 10am-2pm, cwrdd ym maes parcio Pentre’ Uchaf oddi ar Edlogan Way ger The Olive Tree
- Dydd Gwener 13 Mawrth, 10am-2pm, cwrdd ym maes parcio Llyn Cychod Cwmbrân
- Dydd Llun 16 Mawrth, 10am-2pm, cwrdd yng Nghanolfan Gymunedol Cold Barn Farm
- Dydd Iau 19 Mawrth, 10am – 2pm, cwrdd ym maes parcio Llynnoedd y Garn
- Dydd Mawrth 24 Mawrth, 10am – 2pm, cwrdd ym maes parcio Canolfan Hamdden Halo Pont-y-pŵl ger y bont.
Mae'r lleoliadau yn hygyrch i bobl ag anawsterau symudedd, a gallwch droi i fyny ar y diwrnod.
Darperir offer codi sbwriel ond cynghorir pobl i ddod â menig ac esgidiau cadarn ac i wisgo’n addas ar gyfer y tywydd.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae Gwanwyn Glân yn enghraifft berffaith o Fargen Torfaen ar waith.
"Mae'n gyfle i unigolion a grwpiau wella’u hamgylchedd lleol gan ddefnyddio offer a ddarperir gan y Cyngor a phartneriaid.
"Casglwyd 68 bag o sbwriel yn ystod digwyddiadau Gwanwyn Glân Cadwch Torfaen yn Daclus y llynedd a 13 bag o ddeunydd i’w ailgylchu - dewch i ni weld a allwn ni dorri’r record hon eleni!"
Meddai Owen Beryshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus: "Mae'r gwanwyn yn amser perffaith i fynd allan a dangos rhywfaint o ofal i’r lleoedd hynny rydyn ni'n eu caru. Gall sesiwn godi sbwriel syml fywiogi stryd, codi'ch hwyliau, a dod â phobl at ei gilydd.
"Mae'n ffordd gadarnhaol, ymarferol o gwrdd â'ch cymdogion, mwynhau'r awyr iach, a gwneud gwahaniaeth go iawn. Felly, cydiwch mewn bag, camwch allan, ac ymunwch ag arwyr sbwriel eraill sy'n helpu i gadw Torfaen yn daclus."
I gael gwybodaeth am ddigwyddiadau Gwanwyn Glân Cadwch Dorfaen yn Daclus, ewch i wefan Cyswllt Torfaen.
Gallwch wirfoddoli i gasglu sbwriel trwy gydol y flwyddyn trwy ymuno â grŵp casglu sbwriel lleol. Am ragor o wybodaeth, dilynwch grŵp Facebook Torfaen Greener Cleaner Volunteers.
Neu, gallwch drefnu eich digwyddiad eich hun a benthyg offer codi sbwriel am ddim o'ch hwb casglu sbwriel agosaf.
Rhagor o wybodaeth am Gwanwyn Glân a lleoliadau unrhyw ddigwyddiadau cyhoeddus sydd ar droed ledled Cymru