Cyfraddau ailgylchu gwastraff bwyd yn dal i godi

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 18 Rhagfyr 2025
Food Waste Caddy ENG

Mae cyfraddau ailgylchu gwastraff bwyd wedi codi eto diolch i’r trigolion hynny sydd wedi cymryd rhan yn ymgyrch Cystadlu â’ch Cymdogion y Cyngor.

Ym mis Tachwedd 2025, cododd cyfraddau ailgylchu gwastraff bwyd chwech y cant o gymharu â mis Tachwedd 2024, a gostyngodd cyfraddau gwastraff biniau â chlawr porffor naw y cant.

Ers mis Medi, mae swyddogion addysg a gorfodi ailgylchu wedi bod yn dosbarthu llyfrynnau Cystadlu â’ch Cymdogion ac yn cynghori trigolion am sut i leihau’r gwastraff yn eu biniau â chlawr porffor.

Meddai’r Cynghorydd Sue Morgan, yr Aelod Gweithredol dros Gynaliadwyedd a Gwastraff: "Hoffem ddiolch i drigolion am gefnogi ymgyrch Cystadlu â’ch Cymdogion, ac ailgylchu mwy nag y maent wedi'i wneud o'r blaen. Maen nhw wedi profi i ni unwaith eto eu bod yn ailgylchwyr brwdfrydig.

"Mae'n wych clywed gan y tîm ymgysylltu fod rhai pobl sydd ddim erioed wedi ailgylchu gwastraff bwyd o'r blaen nawr yn rhoi tro arni.

"Mae gwastraff bwyd wedi bod yn gyfran fawr o’r gwastraff yn y biniau â chlawr porffor erioed, felly rydyn ni wrth ein boddau i weld mwy ohono’n cael ei roi allan i'w ailgylchu."

Bydd y tîm ymgysylltu a gorfodi yn parhau i fonitro biniau â chlawr porffor ac i gynnig cyngor i aelwydydd sydd â biniau gorlawn neu fagiau sbwriel ychwanegol.

Os na fydd trigolion yn gwneud unrhyw newidiadau, gallent gael llythyr o rybudd ac, yn y pen draw, Hysbysiad Cosb Benodedig o £100.

Cewch ragor o wybodaeth am Bolisi Addysg a Gorfodi Gwastraff y Cyngor  ar ein gwefan.

Darganfyddwch beth allwch chi ei ailgylchu ar garreg eich drws  

Angen bocsys neu fagiau ailgylchu ychwanegol?

Dewch o hyd i'ch hwb ailgylchu agosaf 

Mae Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor saith niwrnod yr wythnos. Cofiwch wahanu eich deunydd i’w hailgylchu a’ch  sbwriel. 

Diwygiwyd Diwethaf: 18/12/2025 Nôl i’r Brig