Y gyfradd ailgylchu yn dal i godi

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 30 Ionawr 2026

Mae cyfraddau ailgylchu yn Nhorfaen yn dal i godi yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru.

Mae data cenedlaethol a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod bron i bob un o’r awdurdodau yng Nghymru wedi sicrhau cynnydd yn y gyfradd ailgylchu y llynedd, gyda bron i hanner ohonynt yn cyrraedd y targed ailgylchu o 70%.

Mae cyfraddau ailgylchu Torfaen wedi codi’n raddol dros y blynyddoedd diwethaf, gan godi o 58.71% yn 2022/23 i 65.34% yn 2024/25.

Mae'r gwelliant hwn wedi'i gefnogi gan gynlluniau fel ymgyrch 'Cystadlu â’ch Cymdogion', sy'n codi ymwybyddiaeth o wasanaethau ailgylchu wrth ymyl y ffordd ac yn rhoi cymorth wedi'i addasu i drigolion sydd angen cymorth i ailgylchu'n fwy effeithiol.

Mae gwelliannau pellach i'r gwasanaeth yn cynnwys cyflwyno casgliadau ar ymyl y ffordd ar gyfer eitemau trydanol bach, ynghyd â mesurau rheoli gwastraff gwell yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Y Dafarn Newydd.

Dywedodd y Cyng. Sue Morgan, yr Aelod Gweithredol dros Gynaliadwyedd a Gwastraff: "Rydym yn falch o weld gwelliant o flwyddyn i flwyddyn yng nghyfradd ailgylchu Torfaen.

"Er bod gwaith i'w wneud o hyd i gyrraedd y targed cenedlaethol, mae'r ffigurau hyn yn dangos yn glir bod ein cymunedau yn gwneud newidiadau ystyrlon a chadarnhaol, yn enwedig wrth ailgylchu gwastraff bwyd.

"Rydym yn ddiolchgar i'r holl drigolion sy'n parhau i chwarae eu rhan, ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y cynnydd hwn dros y flwyddyn i ddod."

Mae cynyddu ailgylchu gwastraff bwyd yn y fwrdeistref wedi bod yn darged allweddol ar gyfer 2025-2026.

Ers dechrau ymgyrch ‘Cystadlu â’ch Cymdogion’, rydym wedi gweld cynnydd o 186 tunnell mewn ailgylchu gwastraff bwyd, cynnydd o 75 tunnell mewn ailgylchu sych, a gostyngiad o 170 tunnell mewn sbwriel biniau clawr porffor o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mae'r tîm addysg a gorfodi hefyd wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â dros 450 o aelwydydd ond dim ond 8 hysbysiad Adran 46 fu’n rhaid eu cyhoeddi oherwydd yr ymateb cadarnhaol a gafwyd.

Defnyddir hysbysiadau Adran 46 dim ond pan fydd aelwydydd yn dal i gyflwyno gwastraff yn anghywir ar ôl cael cymorth gan y tîm addysg a gorfodi. Mae’r tîm yn rhoi cyngor ac unrhyw focsys, bagiau neu gadis sydd eu hangen ar aelwydydd i ddechrau ailgylchu.

Diwygiwyd Diwethaf: 30/01/2026 Nôl i’r Brig