Wedi ei bostio ar Dydd Llun 15 Medi 2025
O'r wythnos hon, bydd tîm o swyddogion addysgu a gorfodi ailgylchu yn ymweld â chymunedau i helpu aelwydydd sy'n cael trafferth gyda gormod o wastraff bin porffor.
Bydd y tîm o chwech yn dosbarthu llyfryn newydd Cystadlu â’ch Cymdogion ac yn siarad â thrigolion i roi cyngor am sut i leihau eu sbwriel.
Byddan nhw hefyd yn monitro gwastraff biniau porffor ac yn cysylltu ag unrhyw aelwydydd y mae eu biniau wedi'u gorlenwi neu sydd â bagiau sbwriel ychwanegol wrth eu hymyl.
Bydd unrhyw un sy'n cael trafferth lleihau eu gwastraff yn cael cymorth a chefnogaeth.
Ond, os na fyddan nhw’n gwneud unrhyw newidiadau, gallent gael llythyr o rybudd ac, yn y pen draw, Hysbysiad Cosb Benodedig o £100.
Meddai’r Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Gynaliadwyedd a Gwastraff: "Rydyn ni’n gwybod bod llawer o drigolion eisiau gwneud y peth iawn o ran ailgylchu, ond mae rhai pobl yn cael trafferth ac efallai bod rhesymau dilys pam fo gan rai sbwriel bagiau du ychwanegol.
"Wedi dweud hynny, mae ymchwil yn dangos y gallai'r mwyafrif o eitemau sy’n cael eu taflu allan fel sbwriel fod wedi cael eu hailgylchu yn rhan o'n gwasanaeth ailgylchu wythnosol wrth ymyl y palmant.
"Trwy siarad yn uniongyrchol â thrigolion, gall ein swyddogion gynnig cefnogaeth ac arweiniad i helpu preswylwyr i leihau eu sbwriel ac ailgylchu mwy."
Bydd yr ymgyrch yn targedu ardaloedd â lefelau uchel o wastraff biniau porffor i ddechrau.
Y nod yw codi cyfraddau ailgylchu yn unol â thargedau Llywodraeth Cymru a helpu i gyrraedd targedau di-garbon.
Mewn arolwg Codi'r Gyfradd yn 2023, dywedodd 56 y cant o drigolion y byddent yn cefnogi camau gorfodi yn erbyn y rheiny sydd ddim yn ailgylchu.
Gallwch ddarllen mwy am Bolisi Addysgu a Gorfodi Gwastraff y Cyngor ar ein gwefan.
Darganfyddwch beth allwch chi ei ailgylchu ar garreg eich drws
Oes angen blychau neu fagiau ailgylchu ychwanegol arnoch? Dewch o hyd i'ch hwb ailgylchu agosaf
Mae Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor saith niwrnod yr wythnos. Gwahanwch y deunydd i’w hailgylchu a’r sbwriel os gwelwch yn dda.