Gair i atgoffa: Gwasanaeth ailgylchu newydd wrth ymyl y ffordd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 3 Hydref 2025
Small electricals TILE2

O ddydd Llun, 06 Hydref, gallwch roi eitemau trydanol bach fel sychwyr gwallt a thostwyr yn y bocs ailgylchu du. Y gwasanaeth newydd yw’r cam nesaf ar daith y cyngor at ailgylchu 70 y cant.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd: “Mae hwn yn gam cadarnhaol pellach ar gyfer ailgylchu yn Nhorfaen. 

“Bydd gallu ailgylchu eitemau trydanol bach wrth ymyl y ffordd yn ein helpu i arbed lle ym miniau clawr porffor trigolion a bydd yn osgoi teithiau i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.  

“Mae pob eitem a gaiff ei ailgylchu’n ein helpu ni i warchod yr amgylchedd a symud yn agosach at ein targed o ailgylchu 70 y cant.” 

Eitemau trydanol bach yw unrhyw beth sy’n cael ei bweru trwy blwg, batri neu wefrwr, ac sy’n ddigon bach i fynd i’r bocs ailgylchu du.  Dim ond eitemau nad ydynt yn fwy na 30cm x 30cm x 30cm (tua 12 modfedd x 12 modfedd x 12 modfedd) y gellir eu hailgylchu wrth ymyl y ffordd.

Ymhlith yr enghreifftiau mae sychwyr gwallt, sythwyr gwallt, a thocwyr gwall, tegelli, haearnau, brwshys dannedd trydanol, clociau, oriorau cyfrifianellau a thortshis, dyfeisiau rheoli o bell, ffonau symudol, camerâu a gwefrwyr, radio, larymau, Chwaraewyr CD a MP3, teganau electronig bach a theclynnau pŵer bach.  Gwnewch yn siŵr os gwelwch yn dda fod y batris wedi eu tynnu allan

Nid oes modd ailgylchu poptai meicrodon neu deledu yn y bocs du gan eu bod yn rhy fawr i  fynd ar y cerbydau casglu. Maen nhw hefyd yn cael eu hystyried yn gategori gwahanol o wastraff, felly does dim modd eu cymysgu gydag eitemau trydanol bach.  

Os oes gyda chi eitemau trydanol mwy, gallwch fynd â nhw i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Dafarn Newydd, neu gallan nhw gael eu casglu am gost trwy ein cynllun casglu eitemau swmpus. 

Os ydych chi’n credu y gallai eich eitem trydanol gael ei drwsio, gallwch fynd a hi i’r Caffi Atgyweirio ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl.

Gydag unrhyw eitemau trydanol nad oes eu hangen, ac a fyddai’n addas i’w hailddefnyddio, ewch i’r Steelhouse neu Furniture Circulate Recycling.   

Diwygiwyd Diwethaf: 03/10/2025 Nôl i’r Brig