Grantiau arbed ynni yn helpu i dorri biliau

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 28 Mai 2025
Untitled design (29)

Mae prosiect datgarboneiddio wedi helpu 45 o grwpiau cymunedol a busnesau i leihau allyriadau carbon ac arbed hyd at £60,000 y flwyddyn ar nwy a thrydan.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae tîm rheoli ynni'r cyngor wedi rhoi grantiau o hyd at £25,000 i helpu sefydliadau ariannu mesurau arbed ynni, fel paneli solar a gwresogi carbon isel.

Eleni, mae grantiau ar gael hyd at £15,000 i grwpiau cymunedol a hyd at £10,000 i fusnesau i'w helpu i leihau allyriadau carbon ac arbed arian.

Mae angen gwneud ceisiadau erbyn Gorffennaf 5 - cysylltwch â energy.management@torfaen.gov.uk

Mae cyllid ychwanegol hefyd ar gael ar gyfer cynlluniau lleihau ynni ar raddfa fwy.

Derbyniodd Able Wales, sydd â chanolfan ddydd yng Nghwmbrân, £24,000 i osod paneli solar a storio batris, gan arbed tua thair tunnell o garbon - sy'n cyfateb i’r allyriadau a gynhyrchir drwy yrru 15,000 milltir.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Shaun O'Dwyer: "Fe wnaethon ni wneud cais am y grant ynni gan fod ein costau trydan wedi cynyddu 300 y cant ers 2022. Hefyd, dros y pum mlynedd diwethaf mae Able wedi bod yn gweithio tuag at adeiladau mwy cyfeillgar i'r amgylchedd yn ein cyfleuster, mae hyn yn cynnwys systemau gwresogi biomas a goleuadau LED.

"Ers mynd yn fyw ym mis Ebrill 2024, mae 84 y cant o'n trydan ar gyfartaledd wedi dod o ynni solar. Mae ein biliau wedi gostwng dros £1,100 y mis hyd yn hyn, bydd yr arbediad hwn yn ein galluogi i barhau i fuddsoddi mewn meysydd eraill o'r cwmni menter gymdeithasol."

Derbyniodd neuadd bentref Ponthir hefyd grant i osod paneli solar a storio batris.

Dywedodd Paul Buffery: "Mae'r paneli solar wedi bod yn cynhyrchu tua 70 y cant o'n hanghenion trydan. Mewn ychydig dros dri mis, fe wnaethom arbed mwy na £1,500 a lleihau allyriadau sy'n cyfateb i'r un budd lleihau carbon â phlannu 60 o goed."

Derbyniodd Sarah Rees, o Salon Rene, yng Nghwmbrân, bron i £5,000 i dalu am oleuadau fflwroleuol LED a gwresogyddion ynni-effeithlon.

Dywedodd: "Rydym wedi newid ein holl hen oleuadau fflwroleuol ac wedi gosod golau LED, sydd wedi gwneud gwahaniaeth anhygoel. Mae'n gymaint mwy golau a thaclus.

"Rydym hefyd wedi newid ein hen stôr-wresogyddion, a oedd yn aneffeithlon iawn, i wresogyddion llawer mwy effeithlon newydd. Mae'r gwahaniaeth yn y gwres wedi bod yn anhygoel. Mae wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i fy musnes."

Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros wastraff a chynaliadwyedd: "Mae'r cynllun grant hwn yn un o'r ffyrdd ymarferol niferus sydd gyda ni o gefnogi sefydliadau a busnesau i fod yn fwy effeithlon o ran ynni gan leihau allyriadau ac arbed arian.

"Mae cefnogi cymunedau i ddod yn sero carbon net yn rhan o gynllun y cyngor i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur yn unol ag Amcanion Llesiant ein Cynllun Sir."

Mae carbon sero net yn golygu sicrhau cydbwysedd rhwng yr allyriadau carbon sy’n cael eu rhyddhau i'r atmosffer, trwy ddefnyddio ynni a theithio er enghraifft, a'r hyn sy'n cael ei dynnu ohono, trwy adfer natur a bioamrywiaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Grantiau Effeithlonrwydd Ynni, cysylltwch â energy.management@torfaen.gov.uk

Ariennir y Cynllun Grantiau Effeithlonrwydd Ynni gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Darganfyddwch pa sefydliadau eraill sydd wedi cael cymorth a pha gymorth sydd ar gael i aelwydydd i leihau ynni a thorri biliau: https://www.torfaen.gov.uk/cy/Climate-Change/Net-Zero-2050/Net-Zero-2050.aspx

Diddordeb mewn newid i ynni solar? Dysgwch fwy am brosiect paneli solar cymunedol newydd

Diwygiwyd Diwethaf: 28/05/2025 Nôl i’r Brig