Cymorth gyda Phaneli solar

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 2 Mai 2025

 

Os ydych chi wedi ystyried newid i baneli solar ond mae’r gost yn eich digalonni – daliwch ati i ddarllen!  

Mae prosiect paneli solar sy’n cael ei arwain gan y gymuned wedi cael ei lansio yn Nhorfaen, ac fe fydd yn golygu bod trigolion yn gallu lleihau’r gost o fuddsoddi mewn ynni solar ond dal i gael yr holl fuddion.  

Mae cynllun ‘prynu fel grŵp’ Solar Together yn gweithio trwy annog pobl sydd â diddordeb mewn ynni solar i gofrestru ar gyfer paneli solar, batris storio a mannau gwefru cerbydau trydan - po fwyaf sy'n cofrestru, y mwyaf cystadleuol yw'r gost. 

Gallwch gofrestru am ddim a does dim rhwymedigaeth i fwrw ymlaen â gosod y paneli.  

Sut mae'n gweithio?  

  1. Cofrestru: Gall deiliaid cartrefi gofrestru ar-lein, am ddim, a heb rwymedigaeth.  

  1. Ocsiwn Go-chwith: Mae cyflenwyr paneli solar ffotofoltäig yn y DU sydd wedi cael eu cymeradwyo yn cymryd rhan mewn ocsiwn go-chwith, gan gynnig prisiau cystadleuol oherwydd y niferoedd a'r crynodiad daearyddol, ac mae hyn yn rhoi arbedion effeithlonrwydd iddyn nhw er mwyn iddyn nhw allu cynnig prisiau is am osod y paneli.  

  1. Argymhelliad Personol: Ar ôl yr ocsiwn, mae aelwydydd sydd wedi cofrestru yn cael argymhelliad personol trwy e-bost, wedi'i deilwra i'r manylion a gyflwynwyd wrth gofrestru.  

  1. Arolwg Technegol: Os derbynnir yr argymhelliad, mae arolwg technegol yn cadarnhau manylion y gosodiad, ac ar ôl y dyddiad hwnnw trefnir dyddiad ar gyfer gosod y system ffotofoltäig solar.  

  1. Cymorth: Mae desgiau cymorth dros y ffôn a thrwy e-bost ar gael trwy gydol y broses, ynghyd â sesiynau gwybodaeth i helpu aelwydydd i wneud penderfyniadau gwybodus mewn amgylchedd diogel a didrafferth.  

Mae cynlluniau Solar Together eisoes wedi cael eu lansio yn Lloegr, ac mae trigolion sydd wedi newid at solar wedi sicrhau arbedion ar eu biliau ynni.  

Meddai’r Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd y Cyngor: "Mae ynni solar yn ffordd wych o leihau eich biliau ynni a’ch allyriadau carbon, sy'n gyfranwyr allweddol at newid yn yr hinsawdd. 
 
"Er bod paneli solar yn gallu bod yn ddrud, mae cael paneli solar a batris i storio’r ynni, i bweru eich cartref, yn fuddsoddiad doeth. Trwy osod paneli solar a chynhyrchu trydan adnewyddadwy, gallwch leihau eich costau ynni a'ch ôl troed carbon yn sylweddol. Os ydych chi wedi meddwl am newid at solar, nawr yw'r amser i gofrestru." 

Meddai Marie-Louise Abretti, Rheolwr Busnes Solar Together UK: "Mae prisiau ynni yn dal i newid, ac mae rhai trigolion yn chwilio am gyfleoedd i leihau eu hallyriadau carbon, arbed ar eu biliau ynni, a dod yn fwy annibynnol o’r grid.   

"Mae cynllun ‘prynu fel grŵp’ Solar Together yn ffordd syml o wneud penderfyniad gwybodus a chael mynediad at gynnig cystadleuol gan ddarparwr dibynadwy sydd wedi cael ei archwilio."  

Rhagor o wybodaeth am y Cynllun a gweld a ydych chi'n gymwys ai peidio   

Rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi helpu i leihau allyriadau carbon  

 

 

Diwygiwyd Diwethaf: 02/05/2025 Nôl i’r Brig