Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 13 Chwefror 2026
Mae cynllun sy'n cynnig cyfle i drigolion Torfaen gael gwaith uwchraddio ynni ar gyfer cartrefi gwyrdd wedi ailagor ar gyfer ceisiadau.
Gallwch nawr gofrestru ar gyfer rownd dau y cynllun sydd wedi helpu 36 o aelwydydd yn Nhorfaen i leihau eu biliau ynni a'u hallyriadau carbon yn barod, trwy osod paneli solar ar y to ar eu cartrefi.
Mae'r cynllun solar 'Switch Together' ('Solar Together' gynt) yn ffrwyno pŵer prynu ar y cyd fel bod modd i drigolion gael gosodiadau solar fforddiadwy, o ansawdd uchel, ar gyfer y cartref.
Mewn ychydig dros 6 mis, arweiniodd y rownd gyntaf o newid at:
- 36 o aelwydydd yn Nhorfaen yn gosod paneli solar.
- gosod 1,600 cilowat o gapasiti cynhyrchu ynni glân.
- gosod 0.25 megawat o gapasiti batri.
- £271,439 o fuddsoddiad preifat mewn aelwydydd.
Meddai'r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae'r cynllun solar 'Switch Together' yn cynnig llwybr syml, cost-effeithiol i berchnogion tai i osod paneli solar a chyfleuster storio batri yn eu cartrefi.
“Oherwydd bod y cynllun yn defnyddio cyflenwyr lleol, wedi'u gwirio'n llawn, mae eu buddsoddiad i ddiogelu eu cartrefi ar gyfer y dyfodol hefyd yn helpu i gefnogi swyddi a thyfu sgiliau yn ein heconomi werdd sy'n tyfu'n gyflym.”
Gallwch gofrestru am ddim trwy'r wefan 'Switch Together' a does dim rhwymedigaeth. Daw'r holl waith gosod trwy'r cynllun gyda gwarantau â chefnogaeth yswiriant.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chofrestru ar: https://switchtogether.co.uk/solar-and-battery/torfaen
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw dydd Gwener 27 Mawrth.
Cyflwynir y cynllun 'Switch Together' mewn partneriaeth â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd ac iChoosr, ac mae'n dod ag aelwydydd o bob rhan o Dde-ddwyrain Cymru at ei gilydd, gan ddefnyddio'u pŵer i brynu mewn swmp i leihau costau gosod. Mae’r gosodwyr wedi'u gwirio'n llawn ac yn cystadlu mewn ocsiwn gwrthdro am y contractau ar gyfer y gwaith gosod. Yn ganlyniad ceir gwerth cadarn am arian, ynghyd ag argymhellion dibynadwy a chanllawiau cam wrth gam trwy gydol y broses.
Rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi helpu i leihau allyriadau carbon