Gofyn i rentwyr preifat rannu eu profiadau

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 6 Mawrth 2026
Tenants survey

Os ydych chi'n rhentu eich cartref gan landlord preifat yn Nhorfaen, hoffai tîm tai'r cyngor glywed am eich profiadau.

Gyda'r galw am gartrefi’n yn parhau i gynyddu, rydym am sicrhau bod y sector rhentu preifat lleol yn opsiwn fforddiadwy da i drigolion sy'n chwilio am gartref.

Bydd eich adborth yn helpu i lunio Strategaeth newydd ar gyfer y Sector Rhentu Preifat 2026–2031 i nodi gweledigaeth glir i wneud tai rhent preifat yn fwy fforddiadwy, hygyrch a diogel i breswylwyr.

Er bod y sector rhentu preifat yn Nhorfaen yn llai na rhannau eraill o Gymru, mae'n chwarae rhan bwysig wrth ddiwallu anghenion lleol am gartrefi.

Gyda'r galw am dai fforddiadwy yn parhau i gynyddu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod rhentu preifat yn Nhorfaen yn deg, yn gefnogol ac yn cynnig opsiwn tai cynaliadwy i breswylwyr.

Bydd y strategaeth yn archwilio'r heriau y mae llawer o rentwyr preifat yn eu hwynebu, gan gynnwys fforddiadwyedd a diogelwch, ac yn clywed profiadau trigolion lleol i helpu i lunio cymorth a pholisi yn y dyfodol.

Bydd hefyd yn nodi sut y bydd y cyngor yn gweithio ochr yn ochr â landlordiaid lleol, gan gydnabod eu rôl hanfodol i gynnal sector rhentu preifat o ansawdd uchel.

Mae'r ymgynghoriad, sy'n rhedeg rhwng Mawrth 6 ac Ebrill 10, yn dilyn ymgysylltiad â landlordiaid preifat, i helpu i lunio'r ffordd y mae'r cyngor yn gweithio gyda nhw i ddatgloi'r potensial i breswylwyr. Mae llety rhent preifat yn chwarae rhan hanfodol a chanolog wrth ddiwallu anghenion a gofynion tai cymunedau Torfaen.

Mae tair sesiwn alw-heibio y gallwch fynd iddynt i sgwrsio â'r tîm tai am eich profiadau:

  • Canolfan Treftadaeth Blaenafon – Dydd Mawrth, 17eg Mawrth 10am-2pm
  • Canolfan Hamdden Pont-y-pŵl – Dydd Mawrth 31ain Mawrth, 9:30am-1pm
  • Llyfrgell Cwmbrân – Dydd Iau 2il Ebrill 10am-2pm

Dywedodd y Cyng. David Daniels, Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Oedolion a Thai: "Mae'r sector rhentu preifat yn Nhorfaen yn llai nag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, gyda dim ond 11 y cant o aelwydydd yn rhentu’n breifat, o'i gymharu â 24 y cant sy'n byw mewn tai cymdeithasol.

"Hoffem gefnogi landlordiaid a thenantiaid preifat i sicrhau bod rhentu preifat yn opsiwn diogel a fforddiadwy i bobl nad ydynt yn gallu fforddio prynu eiddo ond nad ydynt eisiau aros i gael cartref gan ddarparwr tai cymdeithasol."

I gael gwybodaeth ynglŷn â sut y gall y cyngor gefnogi tenantiaid rhent preifat, ewch at ein gwefan.

Nodwch: mae’r arolwg hwn ar agor dim ond i drigolion sy’n rhentu’n breifat yn Nhorfaen.

Arolwg Tenantiaid 

Diwygiwyd Diwethaf: 06/03/2026 Nôl i’r Brig