Wedi ei bostio ar Dydd Iau 11 Rhagfyr 2025
Bydd cyfres o sioeau teithiol yn cael eu cynnal yr wythnos nesaf i annog pobl i gymryd rhan mewn ymgynghoriad am gynlluniau ar gyfer Bargen Torfaen.
Hyd yn hyn, mae dau gyfarfod Panel y Bobl wedi cael eu cynnal yn bersonol ac ar-lein, ac mae mwy na 1,500 o bobl wedi ymweld â thudalen ymgynghori Cymryd Rhan Torfaen am gynlluniau ar gyfer ffordd newydd o weithio rhwng y cyngor, trigolion, cymunedau a sefydliadau partner.
Yr wythnos nesaf, bydd trigolion yn gallu siarad ag Aelodau Gweithredol ac uwch swyddogion am y cynlluniau yn y lleoliadau canlynol:
- Dydd Llun 15 Rhagfyr: Canolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl 10am-3pm
- Dydd Mawrth 16 Rhagfyr: Canolfan Adnoddau Blaenafon 9am-hanner dydd
- Dydd Mercher 17 Rhagfyr: Marchnad Dan Do ac Awyr Agored Pont-y-pŵl 10am-4pm
- Dydd Iau 18 Rhagfyr: Stadiwm Cwmbrân 10am-3pm
- Dydd Iau 18 Rhagfyr: y tu allan i JD Sports, canolfan siopa Cwmbrân 3pm-7pm
- Dydd Gwener 19 Rhagfyr: Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon 10am-3pm
Nod Bargen Torfaen yw lleihau anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol drwy sicrhau bod y cyngor a'r cymunedau yn gweithio gyda'i gilydd i nodi anghenion lleol a datblygu atebion.
Mae’r Fargen yn cyd-fynd gydag ymrwymiad y cyngor i fod yn Gyngor Marmot cyntaf Cymru ar y cyd â Chyngor Blaenau Gwent.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt: "Mae gennym eisoes enghreifftiau gwych o grwpiau cymunedol lleol sy'n cymryd camau cadarnhaol i weithio gyda'r cyngor i wella bywydau a chyfleusterau lle maen nhw'n byw. Nod y Fargen yw ymgysylltu â mwy o drigolion a grwpiau i helpu eu cymunedau i ddod yn fwy gwydn.
"Mae'r galw am wasanaethau fel gofal cymdeithasol wedi cynyddu ac nid oes gan gynghorau'r cyllid i barhau i wneud pethau yn yr un ffordd. Er mwyn llenwi'r bwlch, mae cynghorau yn aml wedi torri gwasanaethau dewisol ehangach - yn aml yr union bethau sy'n atal iechyd gwael ac yn lleihau'r galw hirdymor.
"Yn Nhorfaen, rydyn ni eisiau bod yn arloesol oherwydd ein bod ni'n credu y gall pethau fod yn well i'n cymunedau.
"Mae'r Fargen yn ffordd newydd o weithio i adeiladu ymddiriedaeth a rhannu cyfrifoldeb rhwng y cyngor, trigolion a sefydliadau. Drwy fuddsoddi mewn atal a grymuso ein cymunedau, gallwn fynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldeb a datgloi potensial llawn Torfaen gyda'n gilydd."
Gallwch gymryd rhan yn y sgwrs trwy ddod i un o’r sioeau teithiol neu ymweld â gwefan Cymryd Rhan Torfaen cyn Rhagfyr 31.
Bydd eich sylwadau a'ch barn yn cael eu defnyddio gan Gynulliad Dinasyddion i lunio manylion Bargen Torfaen, a fydd yn cael ei chyflwyno ar gyfer ymgynghoriad pellach ym mis Chwefror.