Wedi ei bostio ar Dydd Llun 18 Awst 2025
Bydd gofyn cyn hir i bob ymwelydd â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Torfaen gyflwyno prawf o gyfeiriad cyn mynd i mewn i'r safle.
Mae'r cyfleuster ailgylchu i drigolion Torfaen yn unig, ond mae tystiolaeth bod pobl nad ydynt yn drigolion yn defnyddio'r safle, sy'n cynyddu costau ac amseroedd ciwio.
O ddydd Llun 1 Medi ymlaen, gofynnir i bawb sy'n defnyddio'r safle ddangos prawf o gyfeiriad i sicrhau mynediad teg i aelwydydd lleol.
Bydd angen i ymwelwyr ddangos ffurf ddilys o ddogfen adnabod sy'n cadarnhau eu cyfeiriad, megis:
- Trwydded gyrrwr
- Bil cyfleustodau diweddar
- Bil treth cyngor
Trwy wirio bod ymwelwyr yn drigolion Torfaen, mae'r cyngor yn anelu at leihau amseroedd aros a sicrhau bod y safle’n cael ei ddefnyddio'n briodol.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Gynaliadwyedd a Gwastraff: "Rydyn ni eisiau sicrhau bod ein canolfan ailgylchu ar gael i'r bobl y’i bwriedir iddynt – trigolion Torfaen.
"Bydd ailgyflwyno gwiriadau ID yn ein helpu i reoli'r galw’n fwy effeithiol a gwella'r profiad i bawb sy'n defnyddio'r safle."
"Mae trigolion yn cael eu hannog i gael eu trwydded yrru neu ID arall yn barod wrth ymweld â'r ganolfan i helpu i gadw pethau i symud yn esmwyth."
I gael rhagor o wybodaeth am y ganolfan ailgylchu, ewch i wefan y cyngor.