Cymerwch ran mewn craffu

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 15 Mai 2025

Bob blwyddyn, mae pwyllgorau trosolwg a chraffu'r cyngor yn archwilio amrywiaeth o bynciau i sicrhau bod penderfyniadau a gweithredoedd y cyngor yn cael eu dal i gyfrif.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r pwyllgorau wedi edrych ar faterion sy’n cynnwys yr hyn sy'n cael ei wneud i leihau digartrefedd yn y fwrdeistref, gwella presenoldeb mewn ysgolion a’r graddau iddynt y mae gwasanaethau cyflogadwyedd yn gwella sgiliau pobl.

Mae'r pwyllgorau nawr yn chwilio am bynciau i graffu arnynt dros y flwyddyn nesaf a byddent yn hoffi i chi gymryd rhan.

Gallwch gyflwyno awgrym, gwneud sylwadau ar awgrymiadau pobl eraill neu ofyn cwestiwn am y broses graffu, trwy hwb democratiaeth Cymerwch Ran Torfaen.

Rhaid cyflwyno syniadau erbyn dydd Mercher Mehefin 18, 2025, iddynt gael eu hystyried, ochr yn ochr â'r rhai a gyflwynwyd gan gynghorwyr neu gyfarwyddwyr strategol, a phynciau sy'n rhan o brosesau rheoli perfformiad y cyngor.

Mae penderfyniadau ynghylch pa eitemau sy'n cael eu dewis yn seiliedig ar nifer o ystyriaethau, gan gynnwys a yw'r mater wedi cael ei ystyried o'r blaen neu a all craffu wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Bydd y pwyllgorau trosolwg a chraffu wedyn yn cytuno ar eu rhaglen waith, sy'n mynd o fis Medi tan fis Mai. Bydd rhestr o'r eitemau i graffu arnynt yn cael ei chyhoeddi ar wefan y cyngor.

Y pum pwyllgor trosolwg a chraffu yw: Yr Economi a'r Amgylchedd; Addysg; Oedolion a Chymunedau; Plant a Theuluoedd; Adnoddau a Busnes Trawsbynciol. 

Dywedodd y Cyng. Rose Seabourne, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg: "Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y nifer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan mewn democratiaeth leol i ymweld â'r hwb democratiaeth newydd ar Cymryd Rhan Torfaen. Mae'n llawn gwybodaeth am sut i fynychu cyfarfodydd, sut i gyflwyno gwybodaeth, gofyn cwestiynau a mwy.

"Bydd y pwyllgorau yn croesawu eich awgrymiadau ar bynciau rydych chi'n meddwl y dylen nhw ganolbwyntio arnynt. Ychwanegwch eich syniadau erbyn 18fed Mehefin 2025 fan pellaf."

Diwygiwyd Diwethaf: 15/05/2025 Nôl i’r Brig