Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 2 Awst 2024
Mae mwyafrif y targedau yng Nghynllun Sirol Cyngor Torfaen wedi eu cyrraedd am yr ail flwyddyn yn olynol.
Strategaeth pum mlynedd yw’r Cynllun Sirol sy’n amlinellu nodau tymor hir y cyngor, ochr yn ochr â chynlluniau cyflenwi blynyddol sy’n cyflwyno’r camau a gaiff eu cymryd pob blwyddyn ariannol i’w cyrraedd.
Dangosodd adroddiad i’r cyngor fod bron i dri chwarter targedau’r cynllun cyflenwi ar gyfer 2023 i 2024 naill ai o fewn targed neu wedi eu cwblhau.
Roedd hyn yn cynnwys dechrau gwaith ar ysgol newydd i ddisgyblion Ysgol Gynradd Maendy, estyniad 50 o leoedd yn Ysgol Crownbridge a maes 3G yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw; cyflwyno Prydiau Ysgol am Ddim i Bawb ym mhob ysgol gynradd; cyflwyno camau arbed ynni ar draws y sir a rhoi taliadau tai yn ôl disgresiwn a chymorth ariannol i filoedd o drigolion.
Roedd ychydig dros un o bob pump o gamau’r cynllun cyflenwi yn y categori oren, sy’n golygu bod oedi wedi bod, gan gynnwys datblygiad cynlluniau ar gyfer cyfleuster newydd didoli ailgylchu ac agor Gorsaf Rheilffordd Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd ar ei newydd wedd.
Roedd tua thri y cant o’r targedau yn goch, gydag oedi mwy sylweddol, roedd y rhain yn cynnwys cynlluniau ar gyfer cartref bach i blant a rhaglen cynhwysiant digidol.
Cafodd tri gweithgaredd eu canslo ac roedd dau heb eu dechrau eto.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Jones, Aelod Gweithredol dros Lywodraeth Gorfforaethol ac Adnoddau “Ein huchelgais yw bod yn gyngor rhagorol ac uchelgeisiol. Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae ein gwasanaethau wedi cyrraedd mwyafrif y targedau a osodwyd.
"Mae gyda ni reolaeth wydn ar brosiectau i sicrhau bod unrhyw dargedau na chyrhaeddwyd o fewn yr amserlen yn parhau i symud, ac rwy’n falch o’r hyn y mae’r cyngor a’i staff wedi ei gyflawni.”
Mae’r Cyngor Sirol wedi ei adeiladu o gylch pedair thema – llesiant, cynaliadwyedd, cysylltedd a diwylliant a threftadaeth – a naw amcan llesiant.
Mae’r cyngor wedi ymrwymo i gynhyrchu cynlluniau ar gyfer pob blwyddyn y cynllun, a fydd yn cael eu monitro pob chwarter er mwyn olrhain a monitro cynnydd.
Cynnydd Cynllun Cyflenwi 2023-2024
Cynllun Cyflenwi 2024-2025