Agor darpariaeth chwarae newydd i deuluoedd.

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 23 Ebrill 2024
Play service

Mae cyfleuster chwarae newydd i gefnogi rhieni a phlant o dan un ar ddeg oed wedi cael ei agor heddiw yng Nghanolfan Ddinesig Pont-y-pŵl.

O dan arweiniad Gwasanaeth Chwarae Cyngor Torfaen, bydd nifer o bethau’n digwydd yn y ‘Chwarae Dinesig’, gan gynnwys clybiau Lego, chwarae teuluol, grwpiau tadau, grwpiau anabledd a chlwb chwarae i ofalwyr ifanc.

Bydd meithrinfa ar gael hefyd i rieni sy’n mynd i hyfforddiant yn yr adeilad.

Mae’r Chwarae Dinesig ar lawr 1 y Ganolfan Ddinesig a bydd ar agor ar adegau penodol yn ystod yr wythnos.

I fod yn gymwys, mae angen yn gyntaf fod teuluoedd wedi eu cyfeirio at y Gwasanaeth Chwarae trwy rwydwaith cefnogaeth fel Teuluoedd yn Gyntaf neu Flynyddoedd Cynnar Torfaen.

Gall hunan-atgyfeiriadau gael eu gwneud trwy ddanfon e-bost at y tîm chwarae yn torfaenplay@torfaen.gov.uk

Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg, y Cyng. Richard Clark: “Dyma’r tro cyntaf i’r cyngor gynnig y math yma o wasanaeth yn y Ganolfan Ddinesig ac mae’n rhan o ehangu’r darpariaethau chwarae sydd eisoes yn cael eu cynnig ledled y fwrdeistref sirol.”

“Mae’r darpariaethau yma’n rhan allweddol o amcanion lles ein cynllun sirol, gan gynnig y dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant. Trwy fuddsoddi ym mlynyddoedd cynnar i’n plant, rydym yn gosod sylfaen ar gyfer dyfodol mwy iach, hapus a llewyrchus i’n cymuned gyfan.”

Am fwy o wybodaeth am y mathau o sesiynau sydd ar gael a’r amserau, cysylltwch â Gwasanaeth Chwarae Torfaen trwy 01495 742951 neu ewch i wefan Cyngor Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 25/04/2024 Nôl i’r Brig