Chwarae yn y Ganolfan Ddinesig
Mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen wedi agor cyfleuster chwarae newydd yng Nghanolfan Ddinesig Pont-y-pŵl i gefnogi rhieni a phlant dan 11 oed.
Mae'r 'Ystafell Chwarae' wedi'i lleoli ar Lawr 1 ac mae'n cynnig ystod amrywiol o ddarpariaethau chwarae i deuluoedd sydd wedi cael eu hatgyfeirio, yn cynnwys clybiau LEGO, chwarae i deuluoedd, grwpiau i dadau, grwpiau anabl a chlwb chwarae i ofalwyr ifanc.
Bydd créche hefyd ar gael i rieni sy'n derbyn hyfforddiant yn yr adeilad.
I fod yn gymwys, rhaid bod teuluoedd yn cael eu hatgyfeirio i’r Gwasanaeth Chwarae drwy rwydweithiau cymorth fel Teuluoedd yn Gyntaf neu Flynyddoedd Cynnar Torfaen. Gellir hunanatgyfeirio drwy anfon e-bost i torfaenplay@torfaen.gov.uk
Amserlen
Amserlen Chwarae’r Ganolfan Ddinesig
| Menter | Grŵp Targed | Tîm | Gwybodaeth Bellach |
|
Clwb Dewch i Chwarae LEGO - Nod y sesiwn yw cynyddu sgiliau cymdeithasol, hyder a lles.
|
Plant o ogledd y Fwrdeistref
|
Y Gwasanaeth Chwarae
|
Bob dydd Mawrth ac dydd Mercher 4:00pm - 5:30pm
|
|
Chwarae i'r teulu. Sesiwn 1 - Nod y sesiwn yw cynnig amgylchedd diogel, cynnes a chroesawgar i deuluoedd fynd ati i chwarae.
|
Teuluoedd a phlant (dan 5 oed)
|
Y Gwasanaeth Chwarae
|
Bob dydd Llun 10:00am - 11:30am
|
|
Clwb Chwarae Gofalwyr Ifanc - Nod y sesiwn yw cefnogi gofalwyr ifanc o Dorfaen a rhoi'r lle a'r cyfle iddynt chwarae.
|
Gofalwyr Ifanc yng Ngogledd y Fwrdeistref (ond yn agored i bawb)
|
Y Gwasanaeth Chwarae a Gofalwyr Ifanc Torfaen
|
Bob yn ail ddydd Iau 4:30pm - 6:00pm
|
Diwygiwyd Diwethaf: 22/01/2026
Nôl i’r Brig