Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 22 Medi 2023
Mae trigolion yn helpu i Godi'r Gyfradd trwy roi mwy o lawer o gardbord allan i’w gasglu wrth ymyl y ffordd.
Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni, rhoddodd trigolion 150 tunnell yn fwy o gardbord allan i'w ailgylchu o gymharu â'r un misoedd y llynedd.
Er mwyn helpu’r criwiau i reoli’r fath gynnydd, a pharatoi ar gyfer y casgliadau wythnosol, gofynnir i chi geisio â rhoi’r holl gardbord sydd angen ei ailgylchu, i mewn i’r bagiau glas.
Mae gwasgu neu dorri’r blychau fel eu bod yn ffitio i mewn i’r bagiau glas yn helpu’r criwiau i lenwi’r cerbydau ailgylchu gyda mwy o gardbord, a gwneud hynny’n gynt.
Gall trigolion gael mwy nag un bag glas, a gellir mynd ag eitemau mwy, fel blychau teledu neu ddodrefn sy'n anodd eu torri, i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Hoffem ddiolch i drigolion am eu cefnogaeth barhaus i gynyddu'r swm y maent yn ailgylchu.
“Bydd torri neu wasgu cardbord fel ei fod yn ffitio i mewn i'r bagiau glas yn help mawr i'n criwiau. Bydd yn lleihau’r amser y mae’n ei gymryd i gasglu wrth ymyl y ffordd a lleihau'r lle y mae'n ei gymryd y tu mewn i'r cerbydau cyn bod angen eu gwagio.
“Mae’r bagiau glas hefyd yn helpu i gadw’r cardbord yn sych – mae cardbord gwlyb yn anoddach ac yn ddrutach i’w brosesu.”
Ar ôl dadansoddi cyfansoddiad gwastraff y cartref y tro diwethaf yn 2022, roedd 15 y cant o finiau â chaead porffor yn cynnwys cardbord a phapur.
Bydd cynyddu swm y cardbord sy’n cael ei ailgylchu yn cynyddu cyfraddau yn y fwrdeistref yn unol â tharged Llywodraeth Cymru i ailgylchu 70 y cant erbyn 2050.
Dysgwch sut y gallwch chi helpu i godi’r gyfradd ailgylchu yn Nhorfaen.
Os oes angen bag ailgylchu glas newydd arnoch ewch i un o’n Canolfannau Cwsmeriaid.
Os oes gennych dipyn go lew o gardbord, gallwch fynd ag ef i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd.