Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 20 Hydref 2023
Mae’r gwastraff gwyrdd sy’n cael ei ailgylchu yn Nhorfaen wedi cynyddu ers dechrau Ebrill.
Mae 210 tunnell fetrig o blanhigion yn ychwanegol wedi cael eu casglu o gymharu â llynedd – cymaint â maint morfil glas!
Bydd casgliadau gwastraff gwyrdd yn parhau tan ddiwedd Tachwedd ac yn ailddechrau ym Mawrth 2024.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Rwy’n falch iawn bod ailgylchu gwastraff gwyrdd wedi cynyddu, yn ogystal â phethau eraill i’w hailgylchu, fel bwyd.
“Rydym yn gweithio’n galed i godi’r gyfradd ailgylchu yn Nhorfaen, ac mae’r ffigyrau’n dechrau dangos hynny.
"Cyflwynon ni arbrawf compost am ddim i drigolion yn ddiweddar gyda’n casgliadau gwyrdd, felly po fwyaf o bobl sy’n ailgylchu eu gwastraff gwyrdd gyda ni, mwyaf o gompost fydd ar gael gennym y flwyddyn nesaf.
"Gall pawb helpu i gynyddu faint sy’n cael ei ailgylchu trwy sicrhau bod yr eitemau cywir yn mynd i’r bin gwyrdd – felly dim bagiau plastig, pridd na rwbel os gwelwch yn dda."
Bydd casgliad olaf y flwyddyn i’r rheiny ar galendr A a B yn ystod yr wythnos yn cychwyn dydd Llun 27 Tachwedd.
Bydd casgliad olaf y flwyddyn i’r rheiny ar galendr C a D yn ystod yr wythnos yn cychwyn dydd Llun 20 Tachwedd.
Gall trigolion gasglu compost am ddim o Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Mae gofyn i bobl gymryd dim mwy na dau fag ar y tro a gofynnir iddynt ddod â’u bagiau â rhaw eu hunain.
Gall biniau gwyrdd gael eu defnyddio i ailgylchu gwair, dail, tociadau perthi, brigau bach, planhigion marw a blodau. Gallan nhw gael eu defnyddio i ailgylchu deunydd gwely anifeiliaid bach fel bochdew neu fochyn cwta.
Mae ailgylchu gwastraff gwyrdd yn helpu’r cyngor i glosio at gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% erbyn Mawrth 2025.
Dysgwch fwy am gasgliadau gwastraff gwyrdd
Dysgwch fwy am ailgylchu yn Nhorfaen i helpu i Godi’r Gyfradd