Siop atgyweirio'n dathlu pen blwydd cyntaf

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 13 Hydref 2023
Repair Cafe Ian Pearce

Mae gwirfoddolwyr sy’n atgyweirio eitemau trydanol bach yn dathlu eu blwyddyn gyntaf.  

Ers agor yn Hydref 2022, mae Caffi Atgyweirio Torfaen wedi trwsio 141 o eitemau trydanol ac wedi atal 22 o eitemau trydanol arall rhag cael eu taflu trwy awgrymu darnau i’w defnyddio i atgyweirio.

Mae’r caffi, ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl, yn cael ei redeg gan Gyngor Torfaen ac Ymddiriedolaeth Elusennol Wastesavers ac yn cael ei reoli gan wirfoddolwyr fel Ian Pearce.

Mae ar agor pob dydd Mercher, o 9.30am tan 12.30am. 

Gall eitemau bach fel tegelli, tostwyr a glanhawyr bach gael eu cymryd i’r siop i’w harchwilio a’u hatgyweirio am ddim, os oes modd gwneud hynny yn y fan a’r lle. 

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae atgyweirio ac ailddefnyddio eitemau’n fwy effeithlon o ran cost ac yn well i’r amgylchedd oherwydd ei fod yn lleihau faint o sbwriel sy’n cael ei daflu.

“Mae tîm y Caffi Atgyweirio wedi gwneud gwaith da wrth drwsio cymaint o eitemau gyda nifer fach o wirfoddolwyr. Os oes gyda chi ddiddordeb mewn helpu Wastesavers i gynyddu capasiti, yna cysylltwch os gwelwch yn dda."

Dywedodd Alun Harris o Ymddiriedolaeth Elusennol Wastesavers: “Mae atgyweirio ac ailddefnyddio yn ffactor cynyddol ym mwriad Cymru o fod yn garbon sero net erbyn 2030, a bydd Caffi Atgyweirio’n rhan annatod o hyn dros y blynyddoedd i ddod.

“Bydd y rhain yn gyfleuster gwych i deuluoedd atgyweirio eitemau y bydden nhw fel arall wedi taflu.

“Mae Wastesavers yn hynod o ddiolchgar o fod yn rhedeg Caffi Atgyweirio Pont-y-pŵl mewn partneriaeth â Chyngor Torfaen.”

Mae Caffi Atgyweirio Torfaen yn ymuno â rhwydwaith caffis atgyweirio Caffis Atgyweirio Cymru

Gall unrhyw un sydd â ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn y caffi gysylltu ag Ian Pearce trwy IanPearce@wastesavers.co.uk  neu  01633 281287 / 07824991667

Mae Cyngor Torfaen yn anelu at gynyddu ailgylchu’r cartref at 70 y cant erbyn 2025.

Mae cynyddu ailgylchu ac ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur hefyd yn un o’r amcanion lles yng Nghynllun Sirol y cyngor.

Diwygiwyd Diwethaf: 13/10/2023 Nôl i’r Brig