Wedi ei bostio ar Dydd Llun 20 Mawrth 2023
Rhaid ailgylchu o leiaf 70 y cant o’r sbwriel yng Nghymru erbyn 2025.
Ar hyn o bryd, mae llai na 64 y cant o’r gwastraff yn cael ei ailgylchu yn Nhorfaen. Mae’r cyngor, felly, yn cynnig nifer o newidiadau, er mwyn ailgylchu mwy a lleihau’r sbwriel sy’n cael ei daflu i ffwrdd yn y biniau â chaeadau porffor.
Yn gynharach y mis hwn, fe fu aelodau o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Glanach y cyngor yn ystyried adroddiad a oedd yn argymell casglu’r biniau â chaeadau porffor yn llai aml.
Yn ôl yr adroddiad, byddai lleihau’r casgliadau gwastraff gweddilliol i unwaith bob tair wythnos yn cynyddu cyfraddau ailgylchu i 66 y cant a byddai casglu pob pedair wythnos yn arwain at gyfraddau ailgylchu o 68 y cant.
Cyflwynwyd nifer o opsiynau eraill ar gyfer gwella’r cyfraddau ailgylchu, gerbron Aelodau. Fodd bynnag nid oedd yr opsiynau hyn yn mynd i leihau’r gyfradd ailgylchu yn effeithiol neu roeddent yn rhy ddrud.
Nawr, byddwn yn gofyn i drigolion bleidleisio dros yr opsiwn sydd orau ganddyn nhw - casglu’r biniau porffor bob tair wythnos neu bob pedair wythnos - yn ystod cyfnod ymgynghori o chwe wythnos a fydd yn dechrau ddydd Llun, 27 Mawrth.
Bydd cyfle i chi ddweud eich dweud ar-lein ar ein hwb ymgysylltu cymunedol, Dweud Eich Dweud Torfaen, neu mewn cyfres o sioeau teithiol cyhoeddus, gan ddechrau’r wythnos nesaf.
Mae’r gwasanaeth hefyd yn ymgynghori’n uniongyrchol â phaneli dinasyddion Torfaen ynghyd â’r pum cyngor cymuned.
Y bwriad yw cyflwyno’r newidiadau ym mis Mawrth 2024 ochr yn ochr â chynlluniau i ehangu’r gwasanaeth ailgylchu, gan gynnwys:
- Ailgylchu hen fatris o fis Ebrill.
- Caglu cardfwrdd ac eitemau trydanol bach yn wythnosol o’r haf hwn.
- Mwy o gymorth i drigolion sy’n byw mewn fflatiau i ailgylchu.
- Ailgylchu mwy o wastraff masnachol.
- Mwy o addysg a gwybodaeth.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Rydym yn deall y bydd rhai o’n trigolion yn poeni sut fyddan nhw’n ymdopi am fod y biniau tenau yn cael eu casglu’n llai aml, ac mi fyddwn ni’n cefnogi’r trigolion hynny y mae angen cymorth arnynt.
“Sylweddolwn hefyd fod angen gwella’r gwasanaeth ailgylchu yn ei gyfanrwydd, er mwyn i ni allu darparu gwasanaeth y gall ein trigolion ddibynnu arno.
“Ond, yn y bôn, nid yw peidio â newid yn opsiwn. Os na lwyddwn ni i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru ac ailgylchu 70 y cant erbyn 2025, gallem wynebu dirwyon o hyd at £100,000 am bob canran o dan y targed.
“Mae cynyddu ein cyfraddau ailgylchu yn rhan o Gynllun Gweithredu Argyfwng Hinsawdd a Natur y cyngor a’n Cynllun Sirol, oherwydd mae’n well i’r hinsawdd, yr amgylchedd a chenedlaethau’r dyfodol.”
Gallwch ddarllen mwy am Gynllun Sirol y cyngor ar ein gwefan a chlicio yma i ddarllen mwy am Gynllun Gweithredu’r Argyfwng Hinsawdd a Natur.