Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ar y 6ed o Ebrill 2016.

Mae'r Ddeddf yn newid y ffordd y mae anghenion pobl yn cael eu hasesu, a'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu - bydd gan bobl fwy o lais o ran y gofal a'r cymorth y maen nhw'n ei dderbyn.

Mae hefyd yn hyrwyddo amrywiaeth o gymorth sydd ar gael o fewn y gymuned i leihau'r angen am gymorth ffurfiol, sydd wedi ei gynllunio.

  • Bydd gwasanaethau ar gael i ddarparu'r cymorth cywir ar yr adeg gywir
  • Bydd rhagor o wybodaeth a chyngor ar gael
  • Bydd asesiadau yn symlach ac yn gymesur
  • Bydd gan ofalwyr hawl gyfartal i gael eu hasesu am gymorth
  • Bydd pwerau cryfach i gadw pobl yn ddiogel rhag camdriniaeth ac esgeulustod.

Asesu Anghenion y Boblogaeth

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant  – Rhan Dau, adran 14 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol fynd ati ar y cyd i asesu anghenion gofal a chymorth, ac anghenion cymorth gofalwyr yn ardaloedd yr awdurdodau lleol.

Mae gofal a chymorth mewn perthynas â'r bobl y mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn gwybod amdanynt, gofalwyr a'r rhai sy'n cael cymorth drwy wasanaethau ataliol.

Mae’r asesiad o anghenion y boblogaeth yn cynnwys dwy adran:

  • Asesu pa bobl neu ofalwyr sydd angen gofal a chymorth ac i ba raddau y mae angen cymorth arnynt.
  • Asesu ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer anghenion gofal a chymorth y boblogaeth, eu gofalwyr, i atal cynnydd yn yr anghenion a’u hatal rhag dwysau, a’r camau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.

Cyhoeddwyd yr asesiad o anghenion y boblogaeth am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2017 a chyhoeddwyd y fersiwn diweddaraf ym mis Ebrill 2022.

Cynllun Ardal Rhanbarthol

Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol a bwrdd iechyd baratoi a chyhoeddi cynllun sy'n nodi ystod a lefel y gwasanaethau y maent yn bwriadu eu darparu, neu drefnu i’w darparu, mewn ymateb i asesiad o anghenion y boblogaeth. Rhaid i gynlluniau ardal gynnwys y gwasanaethau penodol sydd wedi'u cynllunio mewn ymateb i bob thema graidd a nodwyd yn asesiad y boblogaeth. Fel rhan o hyn, mae'n rhaid i gynlluniau ardal gynnwys:

  • y camau y bydd partneriaid yn eu cymryd mewn perthynas â’r meysydd o flaenoriaeth i integreiddio, ar gyfer Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol;
  • yr achosion a manylion mynd ati i gronni cyllid ar y cyd mewn ymateb i asesiad o anghenion y boblogaeth;
  • sut y bydd gwasanaethau'n cael eu caffael neu eu trefnu i gael eu darparu, gan gynnwys modelau cyflenwi amgen;
  • manylion y gwasanaethau ataliol a fydd yn cael eu darparu neu eu trefnu;
  • camau sy'n cael eu cymryd mewn perthynas â darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth; a
  • chamau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyhoeddwyd y cynllun ardal cyntaf ym mis Ebrill 2018 gyda'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn sicrhau cysylltiadau rhwng y Cynllun Ardal a Chynlluniau Llesiant yr awdurdod lleol sydd eu hangen o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i hwyluso cydweithio ac osgoi dyblygu. Mae'r buddion a ddisgwylir yn fwy o gyfleoedd i weithio'n rhanbarthol, comisiynu ar y cyd a sicrhau'r adnoddau mwyaf.    

Dogfennau Cysylltiedig

I weld copi o’r dogfennau a restri isod ewch i www.gwentrpb.wales

  • Crynodeb o’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth
  • Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gwent
  • Cynllun Ardal ar gyfer Llesiant
  • Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol

Cyswllt

I gael mwy o wybodaeth neu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a fyddech cystal â chysylltu â gwentregionalpartnershipboard@torfaen.gov.ukneu ewch i’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol sydd wedi eu rhestru isod

Diwygiwyd Diwethaf: 26/08/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig