AskSARA - offeryn asesu ar gyfer cymhorthion ac offer byw

Lady looking at her smart phoneGall AskSARA eich helpu i ganfod gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â chynhyrchion i wneud gweithgareddau bob dydd yn eich cartref yn haws. Mae hefyd yn rhad ac am ddim ac yn hawdd i’w ddefnyddio.

Mae AskSARA yn adnodd cyngor ar-lein sy'n cael ei greu mewn partneriaeth â rhaglen Living Made Easy y Disabled Living Foundation. Mae'n darparu cyngor diduedd am atebion technoleg gynorthwyol addas sy'n galluogi pobl hŷn, a phobl anabl o bob oed, i fyw'n annibynnol a chynnal y ffordd o fyw o'u dewis.

Dewiswch bwnc yr hoffech gael help gydag o, atebwch gwestiynau syml amdanoch chi a’ch amgylchedd ac, yn seiliedig ar eich atebion, bydd AskSARA yn awgrymu:

  • syniadau ac awgrymiadau ar sut i wneud eich bywyd yn haws
  • manylion cynhyrchion a all helpu a lle i gael hyd iddyn nhw
  • cysylltiadau er mwyn cael mwy o gyngor a chymorth os oes angen

Mae AskSARA yn opsiwn arall i gysylltu â ni'n uniongyrchol er mwyn asesu'r anghenion sydd gennych, ond gallwch barhau i gysylltu â ni'n uniongyrchol ar 01495 762200 neu e-bostio socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk.

Ewch i AskSARA ar gwent.livingmadeeasy.org.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/08/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen

Ffôn: 01495 762200

Ebost: socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig