Gofal Personol

Gofal Personol (y cyfeirir ato weithiau fel Gofal Cartref) yw pan mae gofalwr yn derbyn tâl am ymweld â chi yn eich cartref i’ch helpu gydag unrhyw weithgareddau dyddiol nad ydych yn medru eu gwneud yn ddiogel ar eich pen eich hun, ee codi o’r gwely, ymolchi, gwisgo, mynd i’r gwely, cymorth i fynd i’r tŷ bach, cael cawod neu fath.

Gall Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Thai Torfaen ariannu’r gofal hwn (yn cynnwys Taliadau Uniongyrchol), neu fe allwch chi eich hun ei ariannu’n breifat. Mae pa mor aml y byddwch yn cael ymweliad gan ofalwr, a pha mor hir fydd y sesiwn, yn dibynnu ar faint o gymorth sydd ei angen arnoch. I dderbyn gofal personol wedi ei ariannu gan Wasanaethau Gofal Cymdeithasol a Thai Torfaen, bydd angen asesiad arnoch i bennu a ydych yn gymwys i dderbyn gwasanaethau.

Tra bod gofal personol yn gyffredinol, yn cyfeirio at ofal sy’n cael ei ddarparu yn y cartref, gall gofalwyr sy’n cael eu cyflogi gan asiantaethau gofal personol hefyd ymgymryd â’r dyletswyddau y tu hwnt i’ch cartref.

Yn ogystal â’r gwasanaethau allanol, mae yna ddau dîm gofal personol arbenigol yn Adran Gwasanaethau Gofal a Thai  Torfaen

  • Mae’r Tîm Dementia yn darparu cefnogaeth hirdymor i bobl sydd â dementia.
  • Mae’r Tîm Derbyn yn asesu a chefnogi pobl am gyfnod o hyd at chwe wythnos (bydd y rheiny sydd dal i fod angen cymorth ar ôl y cyfnod hwnnw yn parhau i’w dderbyn, fodd bynnag bydd eu pecyn gofal yn cael ei ddarparu gan ddarparwr gofal cartref allanol).

Mae yna ystod o fudiadau gofal personol allanol sy’n gweithredu yn Nhorfaen, ac maent yn cael eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Cymru a’u monitro gan Dîm Comisiynu Gofal Cymdeithasol y Cyngor. Mae rhestr o ddarparwyr gofal cartref cofrestredig a chymorth i fyw'n annibynnol i'w chael yma.

I gael mwy o wybodaeth, neu i wneud atgyfeiriad i’r gwasanaethau gofal cymdeithasol, ffoniwch 01495 762200.

Diwygiwyd Diwethaf: 20/07/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Cymdeithasol

Ffôn: 01495 762200

E-bost: social.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig