Gwasanaeth Cwympiadau Torfaen

Os ydych chi'n berson hŷn ac wedi cwympo unwaith, yn anffodus, rydych chi'n fwy tebygol o gwympo eto.

Mae'n amhosibl osgoi pob cwymp, ond mae modd lleihau'r ffactorau risg i'r eithaf a chadw cynifer o bobl â phosibl mor ddiogel â phosibl.

Mae Gwasanaeth Cwympiadau newydd Torfaen yn cynnal rhaglenni sy'n helpu i leihau'r risg y byddwch yn cwympo eto.

Clinig Cwympiadau

Os ydych chi wedi cwympo'n ddiweddar, gallai eich gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol awgrymu eich bod yn mynd i'r Clinig Cwympiadau yng Nghanolfan Adnoddau ar y Cyd Canalside, Cwmbrân.

Yn y clinig, byddwch yn cael asesiad i weld a ydych chi'n debygol o gwympo eto, byddwch yn cael archwiliad am osteoporosis a bydd eich meddyginiaeth yn cael ei hadolygu (dewch â'ch meddyginiaeth bresennol gyda chi).

Yn rhan o'ch asesiad, bydd angen i chi ateb rhai cwestiynau a chael archwiliad corfforol gan ymgynghorydd. Caniatewch ddwy awr ar gyfer yr asesiad. Cewch ddod â pherthynas neu ffrind gyda chi os ydych yn dymuno.

Ar ôl eich asesiad, bydd y tîm cwympiadau yn anfon adroddiad at eich meddyg teulu. Os caiff problem benodol ei nodi, efallai y cewch eich atgyfeirio i wasanaeth arall.

Lleihau'r risg o gwympo

Mae pawb yn wahanol, ond fe allech leihau'r risg o gwympo drwy:

  • Wirio'ch cartref am beryglon a chywiro unrhyw broblemau
  • Gwneud ymarferion i wella'ch nerth a'ch cydbwysedd
  • Cael prawf llygaid
  • Holi eich meddyg teulu i weld a oes angen newid eich meddyginiaeth
  • Codi'n araf o'ch gwely neu'ch cadair

Beth i'w wneud os byddwch chi'n cwympo

Os byddwch chi'n ddigon anffodus i gwympo, mae'n bwysig bod rhywun yn dod o hyd i chi'n gyflym.

Galwch am Help!

Defnyddiwch eich teclyn larwm gofal neu gropian i ffôn neu guro ar y llawr neu weiddi. Ceisiwch godi. 

Cadwch yn Gynnes

Rhowch unrhyw beth sydd wrth law drostoch chi e.e. tywel, carthen, blanced 

Ceisiwch Symud

Symudwch y rhannau o'ch corff nad ydynt yn brifo er mwyn atal pwysau ar y rhannau esgyrnog o'ch corff. 

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Llinell Wybodaeth ar gyfer Cwympiadau ar 01633 647480.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Llinell Wybodaeth ar gyfer Cwympiadau 

Ffôn: 01633 647480

E-bost: social.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig