Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae gofyniad statudol ar y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i gyhoeddi adroddiad blynyddol mewn perthynas â chyflenwi swyddogaethau’r Adran Gofal Cymdeithasol, a gwerthuso’i pherfformiad yn ystod y flwyddyn flaenorol. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi crynodeb o’n sefyllfa bresennol, datblygiadau’r dyfodol, a dyheadau a rhai o’r heriau allweddol sy’n gofyn am ffocws ychwanegol. Mae’r adroddiadau yma’n ymwneud â phobl; pobl yr ydym yn cefnogi, pobl sy’n gweithio i ni a phobl yr ydym yn gweithio mewn partneriaeth â nhw.

Wrth gwrs, mae’r cyfnod o dan sylw, sef 2021/22, wedi parhau i fod yn flwyddyn heriol gyda chychwyn adferiad ar ôl Covid gan weithredu ar yr un pryd o fewn cyfyngiadau pandemig; yn amlwg cafodd hyn effaith sylweddol ar angen a chyflenwad y gwasanaeth, ac mae wedi cael effaith mwy hirbarhaol ar ein cymunedau a’n grŵp staffio.

Mae ein heriau wedi parhau i gael eu cysylltu â galw ar draws y gyfarwyddiaeth, sydd, ynghyd â phroblemau staffio, o ran recriwtio, wedi rhoi pwysau ar ein gwasanaethau. Serch hynny, mae staff wedi dangos lefelau uchel o hyblygrwydd, penderfyniad a gwydnwch, ac wedi parhau i gyflenwi gwasanaethau i’n trigolion, gan sicrhau bod y mwyaf bregus yn cael eu diogelu.

Mae nifer o lwyddiannau a datblygiadau allweddol wedi bod trwy gydol 2021/22 ac rwy’n falch o fedru dweud ein bod ni, yn y gwasanaethau plant a theuluoedd, am y tro cyntaf mewn saith mlynedd, wedi gweld gostyngiad net diogel yn nifer ein plant mewn gofal. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar gryfderau teuluol, rheolaeth risg a gwneud penderfyniadau’n ddiogel. O fewn gwasanaethau oedolion, gwelodd diwedd 2021/22 agor Tŷ Glas Y Dorlan, sydd, wrth barhau i gael ei werthuso, yn ceisio cynnig dull arloesol o ddarparu pecynnau gofal a hwyluso a hyrwyddo annibyniaeth i oedolion sydd efallai ag angen gofal parhaus a chynyddol.   

Rydym ar hyn o bryd yn adolygu rhai agweddau o’n cynnig o wasanaethau oedolion er mwyn hyrwyddo mwy o wydnwch ac effeithiolrwydd cymunedol, yn arbennig mewn perthynas â phecynnau gofal cartref, a’n bwriad yw parhau i gael effaith ar ein ffigyrau plant mewn gofal a lefel y galw yn y gyfarwyddiaeth. Rydym wedi dod yn fwy doeth gyda’n defnydd o berfformiad i ffurfio cyflenwad y gwasanaeth ac rwy’n awyddus i sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu trwy a thu hwnt i 2022/23.

Tra bod staff wedi parhau i gamu ymlaen i gyflenwi gwasanaethau trwy’r pandemig, mae’n amlwg bod cymunedau eu hunain wedi datblygu cryn dipyn o gydnerthedd, ac mae hyn yn rhywbeth rwy’n awyddus i barhau i edrych arno a’i datblygu mewn partneriaeth â’n cyfarwyddiaeth cymunedau ac ar draws yr awdurdod lleol i barhau i hyrwyddo lefelau uwch o annibyniaeth a lleihau’r angen am ymyrraeth statudol.  

Ein her allweddol o hyd yw lefel y galw yn y gyfarwyddiaeth yn erbyn cefndir cenedlaethol o anawsterau mewn recriwtio gofal cymdeithasol a lefel sylweddol o ansicrwydd mewn perthynas â’r argyfwng costau byw.

Mae gennym ni grŵp staffio cryf a chydnerth ac ymrwymiad corfforaethol clir i alluogi’r gyfarwyddiaeth i gyflawni ei huchelgeisiau ac rwy’n frwd ac wedi fy nghyffroi i barhau i arwain y gyfarwyddiaeth i mewn i 2022/23.

Helpwch ni i wella Gwasanaethau Cymdeithasol

Rydym yn croesawu adborth ar y gwasanaethau gofal cymdeithasol y mae trigolion yn eu derbyn, cysylltwch â ni fel y gallwn ni ffurfio a gwella gwasanaethau ble mae hynny’n briodol. Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch gysylltu â ni:

Ffôn: 01495 762200
E-bost: socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk 

Os ydych chi’n derbyn gwasanaeth, gallwch gysylltu â’r tîm sy’n eich cefnogi.

Os ydych chi’n anfodlon gyda’r gwasanaethau gofal cymdeithasol yr ydych yn derbyn, defnyddiwch ein proses gwynion.

Diwygiwyd Diwethaf: 24/10/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig