Gwasanaeth Chwarae Torfaen

Young boy attending a Torfaen run play provision

Mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn darparu cyfleoedd chwarae cymunedol i blant a phobl ifanc rhwng 5 a 15 oed ar ffurf clybiau ar ôl ysgol a chynlluniau chwarae yn ystod hanner tymor a gwyliau'r haf.

Yn ogystal, caiff cymorth ei roi i blant a phobl ifanc rhwng 5 a 18 oed ag anableddau i'w helpu i fanteisio ar y ddarpariaeth chwarae gymunedol.

Caiff pobl ifanc 16 oed neu'n hŷn eu cynorthwyo i wirfoddoli mewn lleoliadau chwarae cymunedol yn ystod y gwyliau, gan gynnwys pobl ifanc ag anghenion ychwanegol. Mae hyfforddiant llawn yn cael ei roi.

Mae lleoliadau hyfforddiant ar gael gyda Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn ystod tymor yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys cymorth i ddysgu sgiliau yn seiliedig ar waith, gweithio mewn amrywiol leoliadau gan gynnwys ysgolion a lleoliadau cymunedol, yn ogystal ag ennill cymhwyster achrededig.

Cysylltwch â: Canolfan Chwarae Torfaen, Hen Lyfrgell Abersychan, Brynteg, Abersychan, Pont-y-pŵl, Torfaen, NP4 7BG

Diwygiwyd Diwethaf: 24/03/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Chwarae

Ffôn: 01495 742951
E-bost: torfaenplay@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig