Cyfleoedd Chwarae yn ystod Gwyliau Ysgol
Sylwch y gall y rhaglen newid fymryn bob hanner tymor. Cadwch lygad ar y wefan am y wybodaeth ddiweddaraf bob hanner tymor. Am ragor o fanylion anfonwch e-bost i torfaenplay@torfaen.gov.uk
Darpariaeth Chwarae’r Haf - 27 Gorffennaf i 20 Awst 2026
Gwersylloedd Bwyd a Hwyl
10:00am - 3:00pm, 5-11 oed
Cynllun chwarae mwy strwythuredig lle mae pawb sy’n cymryd rhan yn cael brecwast a chinio maethlon gan dîm arlwyo'r ysgol.
Bydd disgyblion sy’n mynych ysgol sy’n cynnal y gwersyll yn gallu gwneud cais am leoedd drwy'r ysgol, ar system archebu ar-lein. Bydd unrhyw leoedd sydd ar ôl, ar agor i'r cyhoedd.
Ni fydd plant yn gallu dod â phecyn cinio am fod bwyd yn cael ei baratoi ar eu cyfer.
- Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Treftadaeth Blaenafon
- Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road
- Ysgol Gynradd Coed Eva
- Ysgol Gynradd Garnteg
- Ysgol Gynradd George Street
- Ysgol Gynradd Greenmeadow
- Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam
- Ysgol Gynradd Nant Celyn
- Ysgol Gynradd New Inn
- Ysgol Gymraeg Mair a’r Angylion
- Ysgol Gynradd Gymunedol Pen-y-garn
- Ysgol Gynradd Pontnewydd
- Ysgol Gynradd Gymunedol Woodlands
- Ysgol Gymraeg Cwmbrân (Dwyieithog)
- Ysgol Panteg (Dwyieithog)
Prosiect Symud i Fyny
10:00am-3:00pm, 10-12 oed
Gwersyll i blant a fydd yn pontio i'r ysgolion uwchradd a hestir.
Rhaid trefnu lle ymlaen llaw yn unig.
Nid yw plant yn gallu dod â phecyn cinio am fod bwyd yn cael ei baratoi ar eu cyfer.
- Ysgol Uwchradd Abersychan
- Ysgol Uwchradd Cwmbrân
- Ysgol Gorllewin Mynwy
Gwersyll Chwaraeon a Llesiant yn Stadiwm Cwmbrân
10:00am-3:00pm, 8-11 oed
Mae cyfle i drefnu ymlaen llaw ond nid oes angen.
Rhaid i rhiant/gofalwr fynd gyda’r plentyn ar y diwrnod cyntaf i lenwi ffurflen gofrestru os nad yw wedi trefnu lle ymlaen llaw.
Mae angen pecyn bwyd.
Mynediad Agored
5-11 oed
Mae cyfle i drefnu ymlaen llaw ond nid oes angen.
Rhaid i rhiant/gofalwr fynd gyda’r plentyn ar y diwrnod cyntaf i lenwi ffurflen gofrestru os nad yw wedi trefnu lle ymlaen llaw.
- Ysgol Gynradd Llanyrafon - Llanyrafon Way, Llanyrafon, Cwmbrân NP44 8HW - 10:00am-12:00pm
- Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân (CCYP) - Glyndwr Road, Cwmbrân NP44 1QS - 1:00pm-3:00pm
- Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant - Caldicot Way, Pontnewydd, Cwmbrân, Torfaen, NP44 1UF - 10:00yb - 12:00yp
- Parc ‘Pwll Pysgod’ - Maple Road, Tref Gruffydd, Pont-y-pŵl. NP4 5AH - 1:00yp - 3:00yp
Sesiynau Chwarae a Seibiant Dyddiol
Mae’r darpariaethau arbenigol hyn ar gyfer atgyfeiriadau yn unig.
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost torfaenplay@torfaen.gov.uk
Ceisiadau am gymorth ychwanegol am ddarpariaeth yn ystod gwyliau ysgol
Gellir gwneud ceisiadau ar gyfer plant sydd angen cymorth ychwanegol i gael mynediad at ddarpariaethau chwarae cymunedol gan gynnwys tymor yr haf a gwyliau hanner tymor.
Mynegi Diddordeb am Gymorth 1-1
Diwygiwyd Diwethaf: 18/06/2026
Nôl i’r Brig