Mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen wedi agor cyfleuster chwarae newydd yng Nghanolfan Ddinesig Pont-y-pŵl i gefnogi rhieni a phlant dan 11 oed.
Mae'r 'Ystafell Chwarae' wedi'i lleoli ar Lawr 1 ac mae'n cynnig ystod amrywiol o ddarpariaethau chwarae i deuluoedd sydd wedi cael eu hatgyfeirio, yn cynnwys clybiau LEGO, chwarae i deuluoedd, grwpiau i dadau, grwpiau anabl a chlwb chwarae i ofalwyr ifanc.
Bydd créche hefyd ar gael i rieni sy'n derbyn hyfforddiant yn yr adeilad.
I fod yn gymwys, rhaid bod teuluoedd yn cael eu hatgyfeirio i’r Gwasanaeth Chwarae drwy rwydweithiau cymorth fel Teuluoedd yn Gyntaf neu Flynyddoedd Cynnar Torfaen. Gellir hunanatgyfeirio drwy anfon e-bost ni.
Amserlen
| Menter | Grŵp Targed | Tîm | Gwybodaeth Bellach |
|---|---|---|---|
| Clwb Dewch i Chwarae LEGO - Nod y sesiwn yw cynyddu sgiliau cymdeithasol, hyder a lles. | Plant o ogledd y Fwrdeistref | Y Gwasanaeth Chwarae | Bob dydd Mawrth ac Mercher 4pm - 5:30pm |
| Chwarae i'r teulu. Sesiwn 1 - Nod y sesiwn yw cynnig amgylchedd diogel, cynnes a chroesawgar i deuluoedd fynd ati i chwarae. | Teuluoedd a phlant (dan 5 oed) | Y Gwasanaeth Chwarae | Bob dydd Llun 10:00am -11:30am |
| Clwb Chwarae Gofalwyr Ifanc - Nod y sesiwn yw cefnogi gofalwyr ifanc o Dorfaen a rhoi'r lle a'r cyfle iddynt chwarae. | Gofalwyr Ifanc yng Ngogledd y Fwrdeistref (ond yn agored i bawb) | Y Gwasanaeth Chwarae a Gofalwyr Ifanc Torfaen | Bob yn ail ddydd Iau 4:30pm - 6:00pm |