Asesiad Digonolrwydd Chwarae
Mae Llywodraeth Cymru yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod yng Nghymru i asesu’n llawn am gyfleoedd chwarae digonol yn unol â Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Mae Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn cael eu cwblhau ar gylchred 3 blynedd, a chyflwynwyd yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae cyntaf i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2013 gydag asesiadau dilynol yn cael eu cyflwyno ym mis Mawrth 2016 a 2019.
Gwasanaeth Chwarae’r awdurdodau lleol sy’n arwain ar asesu a chasglu data oherwydd eu gwybodaeth a’u profiad o fewn y maes gwaith yn ogystal â’u harbenigedd wrth gynnal asesiadau blaenorol. Dyma’r pedwerydd tro i’r awdurdod lleol fod mewn sefyllfa i asesu’r sefyllfa bresennol yn Nhorfaen.
Mae’r asesiad yn canolbwyntio ar gwmpas eang o bynciau ac agendâu sy’n gysylltiedig â chwarae a’r ddarpariaeth chwarae a hamdden. Mae’r Cynllun Gweithredu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn cael ei fonitro gan grŵp strategol sy’n cyfarfod bob chwarter gyda chynrychiolwyr o’r meysydd allweddol o fewn yr asesiad. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
- Darpariaeth Chwarae, Ieuenctid, Hamdden, Adloniant a Blynyddoedd Cynnar gyda Staff
- Chwarae Sefydlog, Caeau Chwarae, Parciau, Mannau Agored a Chefn Gwlad
- Llwybrau Diogelach o gwmpas y gymuned
- Darparu ar gyfer Anghenion Amrywiol – Plant a phobl ifanc ag anableddau, yr iaith Gymraeg, plant a phobl ifanc bregus
- Diogelu a Datblygu’r Gweithlu Chwarae
- Mynediad at Wybodaeth / Cyhoeddusrwydd a Digwyddiadau
- Ymgysylltu â’r Cyhoedd - Cyfranogiad
- Chwarae o fewn yr holl agendâu polisi a gweithredu perthnasol – Iechyd a Lles, Addysg ac Ysgolion, y Cynllun Datblygu Lleol, Iechyd a Diogelwch, polisi a mentrau Teuluol
Mae’r Asesiad Digonolrwydd Chwarae Torfaen – Crynodeb o Ddarganfyddiadau i’w weld yma.
I gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch andrea.sysum@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 24/03/2024
Nôl i’r Brig