Cymorth gyda'r Dreth Gyngor
Mae'r dreth gyngor yn broses gyfreithiol a gallai camau gael eu cymryd yn eich erbyn os nad ydych chi'n talu. Rhagor o wybodaeth am ôl-ddyledion y Dreth Gyngor.
Os ydych chi'n cael trafferth talu eich Treth Gyngor, cysylltwch â'n tîm cyn gynted â phosibl trwy revenues@torfaen.gov.uk neu 01495 762200.
Gallan nhw eich helpu i reoli’ch taliadau’n well.
Gall y tîm hefyd helpu os ydych chi - neu rywun rydych chi'n ei adnabod - yn agored i niwed.
Gall hyn gynnwys pobl sydd ag:
- Anawsterau corfforol, meddyliol neu ddysgu
- Cyflyrau iechyd hirsefydlog neu ddiagnosis sy’n derfynol
- Newid sylweddol mewn amgylchiadau, fel ysgariad neu brofedigaeth
- Anawsterau ariannol difrifol
Er nad yw bod yn agored i niwed yn cael gwared ar eich rhwymedigaeth gyfreithiol i dalu, gallwn gymryd rhai camau dros dro i liniaru eich amgylchiadau ar y pryd. Bydd y camau hyn yn eu lle nes i chi ddod o hyd i ddatrysiad mwy hirdymor.
Byddwn ni’n:
- Rhoi nodyn wrth eich cyfrif i ddangos y gallech fod yn agored i niwed ac yn methu â rheoli eich materion
- Edrych ar eich amgylchiadau personol cyn cymryd unrhyw gamau pellach i adennill dyledion, ac atal unrhyw gamau sydd ar waith ar y pryd lle bo hynny'n briodol
- Atal ein hasiantau gorfodi (beilïaid) rhag cymryd unrhyw gamau
- Ystyried cyfanswm eich dyled i ni wrth ystyried trefniadau ad-dalu
- Gofyn am dynnu arian yn uniongyrchol o fudd-daliadau lle bo hynny'n bosibl
- Eich helpu i hawlio cymorth gyda’r dreth gyngor ac unrhyw eithriadau a gostyngiadau sydd ar gael i chi
- Eich cyfeirio at ffynonellau eraill o gyngor am ddyledion, fel Cyngor ar Bopeth, a gwasanaethau cwnsela am ddyledion
- Gweithio gydag asiantaethau cynghori i gytuno ar amserlenni ad-dalu sy'n fforddiadwy, a nodi pa ddyledion sy’n flaenoriaeth
Rydyn ni’n edrych ar bob achos yn unigol.
Efallai y byddwn yn gofyn i chi am lythyr gan feddyg, mantolen ariannol neu wybodaeth arall fel y gallwn weld pa mor agored i niwed ydych chi.
Rheoli eich taliadau
Diwygiwyd Diwethaf: 22/09/2025
Nôl i’r Brig