Ôl-ddyledion y Dreth Gyngor

Mae'r dreth gyngor yn broses gyfreithiol. Os oes gofyn i chi dalu'r Dreth Gyngor ond dydych chi ddim wedi gwneud hynny – neu os ydych chi ar ei hôl chi gyda’ch taliadau - gallech wynebu camau cyfreithiol.

Os ydych chi'n cael trafferth talu, cysylltwch â'n tîm cyn gynted â phosibl trwy  revenues@torfaen.gov.uk neu 01495 762200. Rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael

Hysbysiad Atgoffa’r Dreth Gyngor

Os byddwch chi’n cael hysbysiad atgoffa, mae’n rhaid i chi dalu'r gweddill sy'n ddyledus neu fod yn atebol i dalu'r swm sy'n weddill yn llawn.

Hysbysiad Terfynol

Os ydych chi wedi cael hysbysiad terfynol, mae'n golygu:

  • Nad ydych wedi talu rhandaliadau’r dreth gyngor fel y nodwyd ar eich bil
  • Allwch chi ddim talu mewn rhandaliadau mwyach, ac mae'r swm llawn nawr yn ddyledus
  • Rhaid talu'r swm sy'n ymddangos fel swm hwyr ar eich hysbysiad yn llawn o fewn 14 diwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr.

Os na fyddwch chi’n talu’r gweddill yn llawn, byddwch yn cael gŵys gan y llys. Bydd hyn yn arwain at gostau pellach a fydd yn cael eu hychwanegu at yr hyn y mae'n rhaid i chi ei dalu yn barod.

Os na allwch chi dalu, cysylltwch â ni oherwydd efallai y byddwn yn gallu helpu. Os ydych chi’n gallu talu popeth sy’n ddyledus, efallai y byddwch yn gallu mynd yn ôl i dalu’n fisol.

Sut i wneud taliad ar gyfer y Dreth Gyngor

Gŵys gan y llys

Os ydych chi wedi cael gŵys gan y llys, mae'n golygu ein bod ni wedi gwneud cais i'r llys ynadon am y pŵer cyfreithiol i gymryd camau pellach yn eich erbyn i adennill y dreth gyngor sydd heb ei dalu, a bydd costau llys yn cael eu hychwanegu at eich cyfrif.

Er mwyn osgoi hyn, mae angen i chi dalu'r swm llawn ynghyd ag unrhyw gostau gan y llys. Bydd hyn yn atal unrhyw gamau pellach i adennill y ddyled.

Os na allwch chi dalu'r swm yn llawn, gallwch gyflwyno cynnig cytundeb gŵys i ofyn am gael talu mewn rhandaliadau.

Gwneud Cynnig Cytundeb Gŵys

Gorchymyn atebolrwydd

Mae hyn yn golygu bod llys wedi rhoi'r pŵer i ni i adennill ôl-ddyledion y dreth gyngor sydd heb gael eu talu. Gallwn wneud hyn trwy eu tynnu o'ch cyflog neu’ch budd-daliadau, asiantau gorfodi, gorchymyn arwystlo neu orchymyn methdaliad.

Os ydych wedi cael gorchymyn atebolrwydd, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl.

Diwygiwyd Diwethaf: 19/09/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Refeniw a Budd-daliadau

Ffôn: 01495 766129

Ebost: revenues@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig